Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru n anrhydeddu dyngarwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru Wythnos Ddyngarwch 2015

Roedd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wrth eu bodd o anrhydeddu dyngarwyr, y rheiny sy’n byw yng Nghymru a’r rheiny sy’n byw ymhellach i ffwrdd, sydd, drwy roi, wedi cael effaith enfawr ym meysydd addysg y celfyddydau a chyfleoedd bywyd pobl ifanc.  Dangosodd Derbyniad Dyngarwch, sef uchafbwynt Wythnos Ddyngarwch 2015, y rhychwant o weithgareddau dyngarol sy’n cefnogi ac yn ysbrydoli sefydliadau gwirioneddol hynod yng Nghymru.
Ac yntau wedi’i leoli yn Orielau syfrdanol y Chwiorydd Davies, yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, talodd y derbyniad wrogaeth i deulu neilltuol o bwysig o ddyngarwyr Cymreig.  A hwythau’n wyresau i’r diwydiannwr o Gymro, David Davies, magwyd Gwendoline a Margaret Davies ar aelwyd Galfinaidd, gyfoethog, ac o oedran cynnar iawn, teimlent ryw ysfa i wneud defnydd da o’u hetifeddiaeth.
Gan fod yn angerddol dros y celfyddydau, cydnabu’r chwiorydd Davies hefyd y rôl hanfodol y gallent ei chwarae o ran sicrhau bod y cyhoedd yn gallu elwa a dysgu o’u casgliad preifat.  Mae’r rhodd y gwnaethant ei chyflwyno, sy’n cynnwys gweithiau Ewropeaidd campus, wedi bod yn agored i’r cyhoedd ers degawdau, gan olygu bod eu dyngarwch yn dal i oroesi, a bod ei effeithiau’n cyfoethogi bywydau trigolion Cymru a’i hymwelwyr yn ddyddiol.
Mynegwyd yr awydd hwn i ad-dalu i’r gymuned, lle mae pobl yn byw ac yn gweithio, gan April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, a adroddodd bod myfyrwyr y Brifysgol yn aml yn dewis dechrau cefnogi’u hen goleg yn ariannol tra eu bod wrthi’n astudio.  Gall yr arferiad o roddion cychwynnol, rheolaidd, bychain ddatblygu i fod yn ddarpariaeth o gyfleusterau rhagorol er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Cydnabuwyd a dathlwyd enghreifftiau cyfoes o roddion, sy’n dal i roi drachefn a thrachefn, ar y noson.  Mae David Seligman, un o gyfreithwyr amlwg Cymru, ochr yn ochr â’i ddiweddar wraig,  Philippa, wedi talu yn ôl i Gymru mewn nifer o ffyrdd, gan roddi arian, amser ac egni i Opera Cenedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru , Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Theatr Sherman Cymru a Phrifysgol De Cymru.  Derbyniodd mab David, Paul, y wobr ar ei ran, a galwodd i gof sut y rhoes ei rieni lawer o’u hamser hamdden gyda’r nosau i helpu’r sefydliadau hyn a sefydliadau eraill.  Gorffennodd Paul Seligman ei fyfyrdod ar roi drwy ddweud ei fod yn gobeithio “o dderbyn y wobr hon ar ran fy Mam a fy Nhad y bydd yn ysbrydoli mwy o bobl i rannu’u hamser, eu trysor a’u doniau eu hunain gyda’u cymunedau.”
Roedd y Sefydliad hefyd wrth ei fodd o gydnabod Ian Stoutzker, dyngarwr celfyddydol o gryn sylwedd a chanddo angerdd dros gelfyddyd Brydeinig, a sylfaenydd Live Music Now yn 1977.  Yn 2011, rhoddodd Ian £500,000 i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel teyrnged bersonol i’w fam, Dora, athrawes gerddoriaeth o Dredegar, ym Mlaenau Gwent.
I ddangos effaith fyd-eang dyngarwch Cymreig, mae cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, Peter Hancock, wedi ad-dalu i’w Brifysgol mewn diolchgarwch am yr ysgoloriaeth a ddyfarnwyd iddo 50 mlynedd yn ôl.  Dewisodd Peter a’i gymar a chyd-gyn-fyfyriwr, Patricia Pollard, roi gwaddol o £506,000 i’w hen goleg i greu cronfa ysgoloriaeth newydd fawr.  Bydd y ffynhonnell gyllid hirdymor, gynaliadwy hon yn dyfarnu ysgoloriaethau i “fyfyrwyr haeddiannol, disglair ac mewn angen ym Mlwyddyn 2 Anrhydedd neu gyfwerth mewn unrhyw ddisgyblaeth ac o unrhyw genedligrwydd ac sy’n dangos potensial i fod o fudd i gymdeithas drwy gwblhau eu Graddau Anrhydedd neu gyfwerth yn llwyddiannus.”
Yn ogystal â rhoi i sefydliadau sydd eisoes wedi’u hen sefydlu i’w helpu i dyfu ac i fod o fudd i fwy o bobl, gall dyngarwch hefyd ysgogi ffyrdd arloesol o ad-dalu i gymunedau.  Rhannodd Rachel Clacher, sylfaenydd Sefydliad Moneypenny, hanesion am yr effeithiau dyngarol yr esgorwyd arnynt gan gangen elusennol y cwmni ateb ffôn blaenllaw, Moneypenny.  Bu’r Sefydliad yn llwyddiannus wrth weithredu cynllun peilot, o ble y gwnaeth pump o ferched ifainc di-waith a chanddynt hanes o ddigartrefedd a gweithgareddau troseddol ‘raddio’, â chymorth mentoriaid a lleoliadau gwaith, i ennill cyflogaeth ystyrlon, lawn amser.  Mae gwaith Sefydliad Moneypenny yn Wrecsam, sy’n helpu pobl ddi-waith ifanc i gamu “o fod yn garcharorion amgylchiad i fod yn beilotiaid eu bywyd eu hunain”, eisoes wedi gwneud gwahaniaeth enfawr, a bydd yn parhau i dyfu’n uchelgeisiol yn y dyfodol.
Roedd y Sefydliad wrth ei fodd o anrhydeddu’r ystod nodedig hwn o ddyngarwyr, oedd wedi’u huno yn eu hawydd i wneud gwahaniaeth yng Nghymru.  Mae pob hanesyn gwahanol yn dangos gwerth rhoi’n ddyngarol, a hynny i’r buddiolwyr niferus ac i’r dyngarwyr eu hunain, fel ei gilydd.  Casglodd Hilary Boulding, Prifathrawes Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, wobr ar ran Ian Stoutzker, ac awgrymodd mai’r wefr i lawer o ddyngarwyr yw eu bod “yn cael yn ôl lawer mwy nag y rhoesant i mewn”.

News

Gweld y cyfan
Cwrdd â’n Ffrind… Annwen Jones

Cwrdd â’n Ffrind… Annwen Jones

Pŵer rhannu eich stori

Pŵer rhannu eich stori

Cyfle i ddweud eich dweud!

Cyfle i ddweud eich dweud!

Y Principality yn creu cronfa £100,000 i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru

Y Principality yn creu cronfa £100,000 i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru