Rhoi grantiau gwerth £72,490 i grwpiau cymunedol ar draws Gwent yn nigwyddiad Eich Llais Eich Dewis eleni

Daeth grwpiau cymunedol at ei gilydd i gystadlu am gyfran o grantiau gwerth tua £72,490 o Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent.

Roedd croeso mawr i ddigwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn ol i fod wyneb yn wyneb unwaith eto eleni i alluogi grwpiau i gystadlu am grantiau i gefnogi eu prosiectau.

Partneriaeth yw digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ rhwng Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a Sefydliad Cymunedol Cymru i rannu grantiau o hyd at £5,000 i grwpiau cymunedol ledled Gwent.

Mae’r digwyddiad yn ffordd arloesol o roi grantiau sy’n galluogi pobl leol i flaenoriaethu atebion i broblemau lleol a chefnogi prosiectau lleol.

Y llynedd, roedd y digwyddiad wedi cael ei gynnal ar-lein, ond, eleni, roedd y grwpiau’n gallu dod at ei gilydd mewn person. Roedd elfen ddigidol wedi’i hychwanegu at y fformat draddodiadol gyda 11 o grwpiau’n cyflwyno fideos ymlaen llaw yn amlinellu eu cynnig ac yn dangos sut y byddai eu prosiectau o fudd i’w cymunedau lleol.

Roedd y fideos yn cael eu dangos yn y digwyddiad a’r grwpiau eraill yn pleidleisio arnyn nhw. Roedd y prosiectau a oedd yn cael eu cyfrif yn taclo’r problemau pennaf yn derbyn rhan o’r pot grantiau. Roedd fformat hybrid y digwyddiad yn rhoi’r cyfle gorau i’r grwpiau ddangos effaith gwirioneddol eu gwaith ac i rannu eu brwdfrydedd a’u hymroddiad i wella bywydau yng Ngwent.

Eleni, dyfarnwyd grantiau aml-flwyddyn i Savoy Theatre a Shaftesbury Youf Gang, gyda’r nod o gefnogi cynaliadwyedd.

Mae’r dathliad hwn o gyflwyno grantiau yn uchafbwynt calendr Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent ac roedd yn ganlyniad o’r ymdrech codi arian eleni gan Uchel Siryf presennol Gwent, Phillip Alderman. Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent yn cyfrannu £65,000 at y cynllun.

Mae Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent yn gweithio’n galed i adeiladu cymunedau diogelach yng Ngwent trwy gefnogi prosiectau sy’n mentora ac yn ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni’u potensial. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad y gwirfoddolwyr a’r grwpiau cymunedol sy’n gwneud cymaint i wella bywydau pobl Gwent.

Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru wrth sôn am y digwyddiad:

“Roedd yn wych dod â’r grwpiau hyn at ei gilydd mewn person eleni. Unwaith eto, roedd sefydliadau cymunedol yng Ngwent yn arddangos eu prosiectau rhyfeddol sy’n helpu i wella bywydau pobl yn eu cymunedau.

Mae Eich Llais Eich Dewis yn llwyfan i grwpiau cymunedol rannu eu storïau, yn aml trwy eiriau’r bobl y maen nhw’n eu helpu. Mae’n rhoi grym yn nwylo pobl leol i flaenoriaethu atebion i broblemau lleol.

Rydyn ni eisiau diolch i bawb sydd wedi ymuno â ni ac sydd wedi cymryd rhan yn Eich Llais Eich Dewis eleni.”

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Jeff Cuthbert:

“Rwyf wedi ymrwymo i alluogi plant a phobl ifanc i fyw bywydau hapusach ac iachach, heb ofni troseddu.

Drwy gefnogi Cronfa’r Uchel Siryf rydym yn helpu i sicrhau bod grwpiau cymunedol ar lawr gwlad yn cael cyllid hanfodol i gefnogi pobl ifanc eu hardal.

Roedd yn wych gweld ymrwymiad, ymroddiad ac egni cynifer o grwpiau sy’n gweithio i wneud gwahaniaeth i’r bobl ifanc yn eu cymunedau, ac rwy’n falch bod pawb wedi gallu cael cyllid a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu prosiectau.”

Meddai Phillip Alderman, Uchel Siryf Gwent 2021-22;

“Roedd hi mor dda gallu cynnal ‘Eich Llais, Eich Dewis’ fel digwyddiad wyneb yn wyneb ddydd Sadwrn. Roedd pob un o’r grwpiau yn rhagorol ac i’w gweld yn wir yn mwynhau gallu rhwydweithio eto. Grwpiau cymunedol yn cyfarfod mewn lleoliad sydd wrth galon eu cymuned yw’r hyn y mae Eich Llais Eich Dewis yn ceisio’i hyrwyddo.

Gobeithir y bydd y gwobrau a ddyfarnwyd yn caniatáu i’r holl brosiectau dyfu a pharhau i wneud ein cymuned yn lle gwell, mwy diogel a hapusach i fyw.”

Y sefydliadau llwyddiannus yn nigwyddiad 2022 oedd:

  • G-Expressions
  • Gwent Music
  • Shaftesbury Youf Gang
  • HCT (Help Caring Team)
  • StreetDoctors
  • Savoy Youth Theatre
  • Rewild Play
  • The Bigger Picture
  • Ysgol Gynradd Glyn Gaer
  • Clwb Ffermwyr Ifanc Gwent
  • Llamau

Gallwch wylio eu cofnodion fideo yma.

 

 

News

Gweld y cyfan
Ymddiriedolaeth, tryloywder, a chydbwysedd cain wrth roi i elusennau

Ymddiriedolaeth, tryloywder, a chydbwysedd cain wrth roi i elusennau

Gwneud grantiau’n fwy hygyrch gyda Easy Read

Gwneud grantiau’n fwy hygyrch gyda Easy Read

Sefydliad Cymunedol Cymru yn penodi cadeirydd newydd

Sefydliad Cymunedol Cymru yn penodi cadeirydd newydd

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru