Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent

Nod Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent yw sicrhau bywyd gwell a mwy diogel i bobl Gwent drwy gefnogi mentrau a phrosiectau cymunedol sy’n lleihau troseddu a gwella diogelwch cymunedol.

Cliciwch yma i weld y rhai sy’n derbyn grantiau o’r digwyddiad Eich Llais, Eich Dewis eleni.

Gallwch gysylltu ag Uchel Siryf Gwent drwy’r dolenni isod:

Uchel Siryf presennol Gwent

Yr Athro Simon J. Gibson, CBE, DL

Simon yw Cadeirydd Sefydliad Entrepreneuriaeth Graddedigion Alacrity a Phrif Weithredwr Wesley Clover Corporation, cronfa fuddsoddi technoleg fyd-eang.

Mae Simon yn aelod o Fwrdd sawl cwmni technoleg a cyrchfan y Celtic Manor. Mae’n Regent o Goleg Harris Manceinion ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn Athro yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Mae’n Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Mae’n Gyfarwyddwr Ymddiriedolwr Cymdeithas Ceirw Prydain ac yn Ymddiriedolwr Sefydliad Elusennol Newbridge.

Mae gan Simon record hir o wasanaeth cyhoeddus. Mae wedi cadeirio a gwasanaethu ar fyrddau cynghori a darparu ar gyfer Llywodraethau Cymru a’r DU ym meysydd datblygu cymunedol ac economaidd a thechnoleg.

Gwnaed Simon yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) am ei wasanaethau i ddiwydiant ac i’r gymuned yn Ne Cymru yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 1999. Yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018 fe’i penodwyd yn Gomander Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) am wasanaethau i economi Cymru.

Mae Simon yn byw yn Sir Fynwy. Mae’n briod gyda phedwar o blant.