CAERedigrwydd
![Caeredigrwydd Logo Pack-Primary (smaller) CAERedigrwydd](https://communityfoundationwales.org.uk/wp-content/uploads/2019/04/Caeredigrwydd-Logo-Pack-Primary-smaller.png)
Mae’r Gronfa CAERedigrwydd yn ymgyrch i annog pobl sy’n ymweld ac yn byw yng Nghaerdydd i feddwl yn wahanol am sut maent yn rhoi i’r rhai sy’n cardota ac sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Mae’r gronfa yn helpu elusennau digartrefedd presennol i gefnogi’r bobl y maent yn gweithio gyda nhw drwy grantiau bach. Trwy roi I’r gronfa, gallwn helpu i leihau’r risg o ddigartrefedd yn y ddinas, trwy ddarparu’r cymorth cywir ar yr adeg iawn i’r rhai sydd ei angen fwyaf.
O gymorth tai i ddillad ar gyfer cyfweliad swydd – gall rhoi rhodd i roi i Gronfa CAERedigrwydd helpu’r rhai sy’n byw ar y stryd i wneud newid cadarnhaol.