Etifeddiaeth i Griced yng Nghymru

Y rhodd sy’n dal i roi

Etifeddiaeth i Griced yng NghymruEtifeddiaeth i Griced yng Nghymru

Mae llawer ohonom yn cofio am ein teuluoedd a’n ffrindiau yn ein hewyllysiau. Ond mae mwy a mwy o bobl hefyd yn dewis gadael arian a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’w cymunedau neu i gefnogi achos arbennig sy’n agos at eu calon.

Mae gadael rhodd yn eich ewyllys i Gronfa Sefydliad Criced Cymru yn ffordd arbennig iawn o drawsnewid bywydau pobl drwy griced am genedlaethau i ddod.

Bydd eich rhodd – o unrhyw faint – yn gweithio gyda rhoddion pobl eraill ac yn eich rhoi ynghanol cymuned o bobl y bydd eu hetifeddiaeth yn ariannu prosiectau criced cymunedol ledled Cymru.

Bydd y prosiectau a fydd yn cael eu hariannu’n cael eu dewis, eu monitro a’u cefnogi’n ofalus gan Ymddiriedolwyr Sefydliad Criced Cymru ac aelodau proffesiynol ein tîm grantiau. Neu, drwy roi rhodd o fwy na £100,000 gallwch ddewis sefydlu eich Cronfa Etifeddiaeth chi eich hunan gyda Sefydliad Criced Cymru. Byddai eich cronfa arbennig chi yn etifeddiaeth barhaol ac yn ffynhonnell cefnogaeth barhaus i elusennau neu achosion o’ch dewis chi.

Yn wir, y rhodd sy’n dal i roi.

Mae yna ddwy ffordd y gallwch chi adael rhodd yn eich ewyllys:

Cronfa effaith ar unwaith: Rhodd y gallwch chi ddweud sut, ymhle ac ar beth yr hoffech chi i’r arian gael ei wario a byddwn ni’n gweinyddu’r rhodd yn unol â’ch dymuniadau nes y daw yr arian i ben.

Cronfa waddol: Bydd eich rhodd wreiddiol yn cael ei buddsoddi mewn cronfa waddol a fydd yn sicrhau y bydd y rhodd y byddwch yn ei gadael yn dal i roi ac o fudd i bobl a chymunedau drwy gyfrwng criced ymhell ar ôl i chi farw.

Gallwn ni eich helpu i benderfynu pa un o’r dewisiadau hyn sy’n iawn i chi a’ch helpu i gyflawni eich etifeddiaeth.

Os hoffech chi ystyried rhodd yn eich ewyllys a fydd yn troi’n etifeddiaeth cysylltwch â:

Galwch Katy Hales, Rheolwr, Rhodd dan Reolaeth Unigolion ar 02920 379580 neu drwy lenwi y ffurflen islaw: