Cwrdd â'n ffrindiau

Michael Sheen

“Des yn ymwybodol o waith Sefydliad Cymunedol Cymru (CFW) drwy fy ymwneud â Chwpan y Byd i’r Digartref. Ers hynny, rwyf wedi dysgu am y gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud i gefnogi sefydliadau ar lawr gwlad a allai fel arall ei chael hi’n anodd cael mynediad at gyllid.

Does dim sefydliad fel CFW, dyna pam y des i’n Ffrind. Maent yn gweithio’n ddiflino i ddarparu cyllid y mae mawr ei angen ar gyfer cymunedau a sefydliadau ledled Cymru ond hefyd yn darparu deiliaid cronfa, fel minnau, gyda’r mecanwaith i ddosbarthu cyllid i’r achosion a phrosiectau sy’n agos at ein calonnau.”

 

Cwrdd â’n ffrindiau

Annwen Jones

“Rwy’n angerddol am Gymru, am ein pobl, ein hanes, ein diwylliant, ein hiaith. Er y gallwn fod yn falch iawn o’n cyflawniadau niferus, y realiti yw bod llawer iawn o angen heb ei ddiwallu o hyd a bod anghydraddoldebau sylweddol o ran cyfleoedd i’n plant a’n pobl ifanc.

Deuthum yn Gyfaill i Sefydliad Cymunedol Cymru oherwydd bod ganddynt genhadaeth syml ond pwerus i wella bywydau pobl yng Nghymru – maent yn gweithio ledled y wlad – drwy gysylltu’r rhai sydd am roi i’r achosion y maent yn poeni fwyaf amdanynt.”

Cwrdd â’n ffrindiau

David Gold

“Rwy’n treulio llawer o amser yng Nghymru, rwyf wrth fy modd yn bod yma ac mae gennyf gymuned leol yn Sir Benfro yr wyf yn teimlo’n rhan ohoni.

Er fy mod yn cyfrannu’n lleol yn Sir Benfro, ardal yr wyf yn angerddol amdani, credaf hefyd fod eich cymuned yn ymestyn yn ehangach na’r radiws pum milltir lle rydych yn byw. Felly, penderfynais fuddsoddi yng ngweddill Cymru, drwy ddod yn Gyfaill i Sefydliad Cymunedol Cymru.”

Cwrdd â’n ffrindiau

Baywater Healthcare

“Mae Dod yn Gyfaill i Sefydliad Cymunedol Cymru yn bwysig i Baywater Healthcare fel darparwr gofal iechyd sy’n darparu gwasanaethau ocsigen yn y cartref ledled Cymru. Mae Dod yn Ffrind i’r Sefydliad Cymunedol wedi caniatáu i ni gysylltu ag unigolion o’r un anian sy’n rhannu angerdd cyffredin am gael effaith gadarnhaol yn ein cymuned leol. Mae ymrwymiad y sefydliad i greu newid ystyrlon a chefnogi ystod eang o fentrau sy’n mynd i’r afael ag anghenion amrywiol ein cymuned yn wirioneddol ysbrydoledig.”

Cwrdd â’n ffrindiau

CMC

“Roedd dod yn Gyfaill i Sefydliad Cymunedol Cymru yn teimlo fel ffit naturiol iawn yma yn CMC. Mae ein prif swyddfa wedi’i lleoli yng Nghymru, mae llawer o’n gweithwyr yn Gymry ac rydym yn angerddol iawn am gefnogi elusennau lleol a grwpiau cymunedol sy’n agos at galonnau ein gweithwyr.”

Cwrdd â’n ffrindiau

Diane McCrea

“Pan ganfûm mwy am waith gwych Sefydliad Cymunedol Cymru, ac yn enwedig wrth gefnogi ein cymunedau yng Nghymru yn ystod Covid, roeddwn am roi fy nghefnogaeth drwy ddod yn Ffrind. Mae’n ffordd hawdd i wybod bod fy nghyfraniad bach yn gwneud gwahaniaeth go iawn.”

Cwrdd â’n ffrindiau

Kevin Gardiner

“Yn falch o allu rhoi ychydig yn ôl i’m cymuned trwy’r gefnogaeth y mae Sefydliad Cymunedol Cymru’n ei dargedu.”

Cwrdd â’n ffrindiau

Owen Richards

“Mae Hiraeth yn real. Efallai fy mod wedi byw yn hirach yn Lloegr nag yng Nghymru, ond mae’r cysylltiadau mor gryf. Rwy’n gwybod gwerth enfawr sefydliadau cymunedol ar ôl bod yn ymddiriedolwr Sefydliad Cymunedol Essex. Mae gan Sefydliadau Cymunedol gymaint o wybodaeth am angen lleol a sefydliadau lleol, ac maent yn fedrus wrth gyfateb adnoddau â’r angen hwnnw mewn ffordd ystwyth. Mae dod yn Gyfaill i Sefydliad Cymunedol Cymru yn fy ngalluogi i wneud cyfraniad bach at ei waith eithriadol.”

Cwrdd â’n ffrindiau

Alun Evans

“Dewisais i ddod yn ‘Ffrind’ Sefydliad Cymunedol Cymru oherwydd yr effaith mae grant, boed yn fawr neu’n fach, yn gallu ei gael ar fywydau pobol. Ar ôl ymweld â nifer sy’n derbyn ein grantiau, mae’n cadarnhau’r gwaith gwych mae’r Tîm yn ei wneud i helpu cymunedau ledled Cymru. Roedd o y peth amlwg i’w wneud!”

Cwrdd â’n ffrindiau

Annabel Lloyd

“Mae Cymru’n fosaig gwych ond cymhleth o gymunedau amrywiol, felly mae gwir angen i chi eu hadnabod yn dda i wybod beth sydd ei angen arnynt. Dyma gryfder Sefydliad Cymunedol Cymru, drwy eu rhwydwaith o brosiectau a sefydliadau ar lawr gwlad.

Mae CFW yn gwneud gwaith gwych o gysylltu busnesau ac unigolion sydd am wneud gwahaniaeth gyda’r cymunedau hyn i newid bywydau pobl mewn ffordd real iawn, drwy reoli arian a dyfarnu grantiau, i gyd wedi’u cefnogi gan y diwydrwydd dyladwy gofynnol. I’r rhai ohonom sydd heb yr adnoddau i greu cronfa, mae ymuno fel Ffrind yn un ffordd fach o helpu i wneud gwahaniaeth i gymunedau. Ac os oes digon ohonom yn ymuno â chymuned y Cyfeillion, mae’n dod yn ffordd fwy!”

Cwrdd â’n ffrindiau