Sam Warburton yn lansio ymgyrch CAERedigrwydd yn Gaerdydd heddiw
Gafodd CAERedigrwydd, ymgyrch i helpu lleihau digartrefwch yng Nghaerdydd, ei lansio heddiw gyda seren rygbi Sam Warburton. Mae pwynt digyswllt wedi cael ei osod yn Yr Hayes i roi ffordd arall i bobl Caerdydd roi arian i’r digartre.
Gall rhoi rhodd ddim fod yn haws – gan tapio eich cerdyn yn erbyn y sgrin rhyngweithiol mae rhodd o £2 yn cael ei wneud yn awtomatig. Dyma’r tro cyntaf i pwynt i gerdyn di-gyswllt cael ei defnyddio ar gyfer derbyn rhoddion gan y cyhoedd yng Nghymru, ac am y ddwy wythnos nesaf fydd pob rhodd yn cael ei ddyblu diolch i’r Four Acre Trust.
Bydd y rhoddion yn cael eu casglu gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru a fydd yn dyfarnu grantiau unigolion sydd yn ddigartref, yn ogystal a’r rhai sydd mewn risg o ddigartrefedd. Mi fydd grantiau i fynu at £750 yn cael ei gwobryo drwy sefydliadau ac elusennau sy’n cefnogi’r unigolion yma.
Gallai ddefnyddio’r arian yma i brynu eitemau hanfodol a fydd o fudd i’r unigolyn a’i cynllun datblygu personol. Y nod yw cefnogi anghenion unigol unigolion.
Ydy chi wedi bod yn gweld y pwynt rhoi cerdyn di-gyswllt eto? Cofiwch rannu llun gyda’g ni ar Facebook neu Trydar pan fyddech yno. Helpwch i wneud gwahaniaeth yng Nghaerdydd!