Sefydliad Cymunedol Cymru yw dewis elusen Dwylo Dros y Môr 2020

35 o flynyddoedd ar ôl rhydau’r gân elusen Gymraeg gyntaf erioed, Dwylo Dros y Môr, mae fersiwn 2020 o’r gân yn cael ei rhyddhau a bydd rhan o’r elw yn mynd at Gronfa Gwytnwch Coronafeirws Sefydliad Cymunedol Cymru.

Mae’r gantores Elin Fflur, gyda chymorth y cerddor Owain Gruffudd Roberts, wedi dod â thros 30 o artistiaid Cymru o’r sîn gerddorol heddiw at ei gilydd i greu trefniant newydd, Dwylo Dros y Môr 2020.

Bydd fersiwn newydd o’r gân, a gyfansoddwyd yn wreiddiol gan y canwr Huw Chiswell, ar gael i’w lawrlwytho ar yr holl lwyfannau digidol ar 11 Rhagfyr.  Bydd y cyfan ar gael i’w wylio mewn rhaglen arbennig, Dwylo Dros y Môr 2020, a fydd yn cael ei darlledu ar 27 Rhagfyr am 8pm.

Yn union fel gyda’r gân 35 o flynyddoedd yn ôl, bydd rhan o’r elw o’r sengl yn mynd i elusen a chyda’r pandemig Coronafeirws presennol yn dal i effeithio ar fywydau yng Nghymru, dewiswyd elusen agosach at adre – Sefydliad Cymunedol Cymru.

Bydd rhan o elw Dwylo Dros y Môr yn mynd at Gronfa Gwytnwch Coronafeirws Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae’r Gronfa hon wedi cefnogi sefydliadau ledled Cymru gydol y pandemig Coronafeirws, gan eu helpu i addasu eu gwasanaethau a chefnogi’r rhai sydd ei angen mwyaf.

Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wrth ei fodd o gael ei ddewis yn elusen fersiwn Dwylo Dros y Môr 2020. Mae rhydhau’r sengl hwn yr un mor bwysig heddiw ag yr oedd 35 o flynyddoedd yn ôl, yn enwedig gan ein bod yng nghanol pandemig Coronafeirws.

Mae’n Cronfa Gwytnwch Coronafeirws wedi bod yn gymorth ariannol mawr ei angen i gymunedau ledled Cymru.  Rydym ni’n gobeithio y bydd pobl Cymru’n dangos eu cefnogaeth ac yn lawrlwytho’r gân er mwyn i ni allu dal ati i helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf.”

Meddai’r gantores Elin Fflur:

“Yn wreiddiol, 35 mlynedd yn ôl, y nod oedd codi arian at rywbeth a oedd yn digwydd yr ochr arall i’r byd; ond rydym yng nghanol argyfwng gwahanol iawn eleni.”

“Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn mor anodd – mae Covid wedi effeithio ar bob un ohonom, ond mae yna rhai pobl yn ein cymunedau sydd wedi’u taro’n wirioneddol galed gan y pandemig. A dyna pam mae Cronfa Gwytnwch Coronafeirws Sefydliad Cymunedol Cymru mor bwysig; mae’n gweithio yng nghalon ein cymunedau.

“Buaswn yn annog pawb i brynu’r gân – rydym dal yng nghanol y pandemig, felly os allwn ni helpu’r achos drwy lawrlwytho cân, wel, oni ddylem ni i gyd fynd amdani?! Byddai’n fonws gwych ei gweld yn cyrraedd brig y siartiau!”

Lawrlwythwch Dwylo Dros y Môr yma

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…