Sefydliad Cymunedol Cymru’n ennill Achrediad Ansawdd

Mae aseswyr annibynnol wedi canmol gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru yn cyflwyno grantiau ac yn cefnogi rhoddwyr.

Roedd y sefydliad yn cael ei ystyried yn Dda neu’n Rhagorol ym mhob un o’r 14 maes oedd yn cael ei asesu gan ennill Achrediad Ansawdd y DU.

Cynhaliwyd yr asesiad gan Ideas to Impact a gwerthuswyd ymarferion presennol Sefydliad Cymunedol Cymru a 46 o sefydliadau cymunedol ar draws y DU trwy gyfweld â staff, archwilio dogfennau ac ystyried y ffordd y maen nhw’n gweithio i fesur eu cynnydd a sut y maen nhw’n cynllunio ar gyfer datblygu.

O fewn 14 o’r Safonau Craidd gan gynnwys llywodraethiant, cyllid, dyngarwch, cyflwyno grantiau, cyfranogaeth gymunedol a datblygiad trefniadol, ystyriwyd fod Sefydliad Cymunedol Cymru yn dangos ymarfer naill ai da neu ragorol.

Roedd yr asesiad yn canmol Sefydliad Cymunedol Cymru am ei enw da mewn deall anghenion y sector ac am ddefnyddio hynny i ddylanwadu ar roddwyr a gwneuthurwyr polisi.

Roedd ei adroddiad yn Uchel ac yn Groch yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft o “ddeall anghenion y sector yn drylwyr a hefyd ei rôl mewn codi ymwybyddiaeth rhoddwyr o broblemau, cyflwyno gwybodaeth ar gyfer rhoi grantiau a bod randdeiliaid megis Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i gyflwyno gwybodaeth er mwyn datblygu polisi”.

Nododd yr aseswyr “oherwydd bod Sefydliad Cymunedol Cymru wedi ymgynghori’n uniongyrchol gyda grwpiau ynghylch eu hanghenion a’u dymuniadau, maen nhw’n ymwybodol o angerdd y grwpiau hynny ac mae hynny’n cael ei drosglwyddo yn eu sgyrsiau gyda’r rhoddwyr.”

Mae’r rhaglen achredu hon yn unigryw i rwydwaith Sefydliadau Cymunedol y DU. Dyma’r unig broses achredu ryngwladol sydd wedi’i theilwra ac wedi’i dylunio gan sefydliadau cymunedol.

 

Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill Achrediad Ansawdd. Mae’n dystiolaeth i ymrwymiad a gwaith caled ein staff a’n hymddiriedolwyr, yn enwedig yn ystod amgylchiadau heriol y 18 mis diwethaf.

Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau fod ein polisïau a’n prosesau o safon uchel yn gyson ac yn cefnogi’n gwaith wrth ysbrydoli pobl i roi, gan helpu cymunedau Cymru i ffynnu a newid bywydau gyda’n gilydd.”

 

Meddai John Gordon, Cadeirydd y Pwyllgor Achrediad Ansawdd:

“Gan ein bod erbyn hyn ym mhumed rownd Achrediad Ansawdd, rydym wedi gweld sefydliadau cymunedol ledled y DU yn gwella ac yn dangos yn glir safon uchel o lywodraethiant, gweinyddiaeth a dyletswydd ariannol dyladwy trwy asesiad allanol ar draws y timau o bob math o faint a gallu.”

 

Meddai Rosemary Macdonald, Prif Weithredwr Sefydliadau Cymunedol y DU:

“Mae’n arwydd o ymrwymiad a diwydrwydd ein haelodau eu bod wedi cwblhau’r broses achredu drylwyr hon ac, yr un pryd, yn dosbarthu mwy o arian i’w cymunedau nag erioed o’r blaen. Mae tîm Sefydliadau Cymunedol y DU yn falch o gefnogi rhwydwaith sy’n cyrraedd pob rhan o’r DU ac sydd wedi dangos ymarfer da mor glir gydol y broses hon.”

Bydd yr Achrediad Ansawdd yn parhau am dair blynedd hyd at fis Hydref 2024. Mae’n fenter sydd wedi’i sefydli i ddangos diwydrwydd dyladwy sy’n cadarnhau fod sefydliadau cymunedol yn gallu darparu grantiau a rhaglenni ar lefel genedlaethol. Mae’n hyrwyddo ymarfer rhagorol ar draws y rhwydwaith sefydliadau cymunedol er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu defnyddio’u hadnoddau yn y modd mwyaf effeithiol i wrando, cefnogi ac eirioli ar ran eu cymunedau.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…