Trafodaeth ford gron ar gyllido ar sector digartrefedd
Beth yw’r ffyrdd gorau drwy’r hyn y gall sefydliad elusennol helpu mudiadau trydydd sector sy’n gweithio yn y sector digartrefedd a thai?
Dyna’r cwestiwn a ofynnwyd mewn trafodaeth ford gron a drefnwyd gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ac y bu ‘The Wallich’ yn ddigon caredig i’w chynnal.
Gwnaeth cynrychiolwyr o Cymorth Cymru, The Wallich, Llamau, Prosiect Pobl Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe, Digartref Ynys Môn, Mind Merthyr a’r Cymoedd, a bwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro ymuno â ni i rannu’u syniadau ar y ffordd orau y gall y rhaglenni cyllido gefnogi’r sector yng Nghymru. Ymunwyd â ni gan ddau o gydweithwyr o Sefydliadau Cymunedol y Deyrnas Unedig, sydd wedi brocera dwy raglen gyllido newydd ar gyfer Cymru.
Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wedi sicrhau dau gyfle am gyllid i’r sector yng Nghymru, y naill drwy Gymdeithas Adeiladu’r Nationwide, a’r llall o dan y teitl Y Rhaglen Gweddnewid a Thwf.
Grantiau Cymunedol Cymdeithas Adeiladu’r Nationwide:
Anogir prosiectau ac elusennau tai i ymgeisio am grantiau i helpu i wneud newid yn eu hardaloedd lleol. Bydd grantiau o hyd at £25,000 ar gael i sefydliadau sengl ac fe fydd hyd at £50,000 ar gael ar gyfer cynigion gan bartneriaethau. Gyda chyllid, fe fydd prosiectau llwyddiannus yn gallu darparu gwasanaethau tai i bobl anghenus, cynorthwyo pobl i fynd oddi ar y strydoedd, a mwy.
Bydd y gronfa’n cefnogi prosiectau sydd wedi’u categoreiddio o dan dair Thema Allweddol:
- Atal pobl rhag bod yn ddigartref; gellid gwneud hyn drwy wella amodau corfforol, emosiynol neu gymdeithasol. Er enghraifft, datblygu llety newydd ar gyfer y rheiny sy’n ddigartref ar hyn o bryd.
- Helpu pobl i gael cartref; gallai hyn fod drwy helpu pobl i gael llety â chymorth neu drwy sefydlogi llety ar rent. Er enghraifft, helpu pobl i allu cael cynlluniau bond.
- Cynorthwyo pobl i aros yn eu cartref; gallai hyn fod drwy gynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartref presennol. Er enghraifft, cynnig addasiadau i gynorthwyo pobl hŷn neu bobl ag anableddau i fyw gartref ac i barhau i fod yn weithgar.
Y Rhaglen Gweddnewid a Thwf:
Bydd y Rhaglen Gweddnewid a Thwf yn darparu grantiau o rhwng £10,000-£25,000 i elusennau bach i ganolig eu maint sy’n gweithio yn y sector digartrefedd a thai ledled y Deyrnas Unedig (gan ganolbwyntio’n benodol yng Nghymru ar dde-ddwyrain y wlad). Nod y Gronfa yw creu a gwella cadernid yn y sector. Mae yna £225,000 ar gael i Gymru dros ddwy flynedd gychwynnol y rhaglen.
- Rhoi sylw i faterion tai a digartrefedd lleol drwy ddarparu grantiau datblygiadol i fudiadau llawr gwlad i ddatblygu cynaliadwyedd, datblygu syniadau a defnyddio datrysiadau arloesol i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
- Defnyddio’r cymorth i ddatblygu mudiadau cynaliadwy sy’n gallu rheoli’u darpariaeth yn well mewn amseroedd anwadal.
Bydd y rhaglen yn weithredol am dair blynedd, sef dwy flynedd o gyflawni a blwyddyn o werthuso, ac fe ddylai cyfranogwyr ddisgwyl gweithio â’n partneriaid gwerthuso yn y flwyddyn neu ddwy y cânt eu cyllido. Mae’n debygol o fod yn broses ymgeisio hwy nag arfer, gydag amryw o weithdai ac arolwg lleol o’r ddarpariaeth bresennol, i’n helpu i ddeall beth mae ar y sector lleol ei angen ac ymhle y caiff cymorth ei roi orau.
Canolbwyntiodd y sesiwn drafod ar heriau sy’n wynebu mudiadau a chyfleoedd dichonol ar gyfer defnyddio’r arian newydd yn y modd gorau. Roedd syniadau a rannwyd yn cynnwys:
- Mae ar fudiadau angen cymorth i gynnal gwasanaethau arbenigol a chymorth/gweithgareddau y tu hwnt i denantiaeth, e.e. dull cyfannol tuag at gymorth, yn cynnwys magu cysylltiadau diogel a chryf/rheoli iechyd a lles;
- A all mudiadau gydweithio i ddatblygu pecynnau hyfforddi?
- A oes yna gyfleoedd am gydwasanaethau ystafell gefn?
- Sefyllfaoedd lleol; er enghraifft, ar Ynys Môn, lle y bydd datblygu gorsaf bŵer newydd yn effeithio’n aruthrol ar y cyflenwad tai;
- Mae ar fudiadau angen cymorth i’w staff, sydd yn aml yn cynorthwyo pobl drwy ddigwyddiadau trawmatig;
- Sut mae mudiadau’n sicrhau’u bod yn gallu darparu gwasanaethau ataliol?
- Natur wledig – mae niferoedd y bobl sydd heb do uwch eu pennau yn uwch nag a amcangyfrifir ac mae costau darpariaeth yn uwch yn yr ardaloedd hyn. Sut rydym yn gwneud y mater hwn yn fwy gweledol mewn ardaloedd gwledig?
- Cyfryngu teuluol i helpu i atal pobl, yn enwedig pobl ifanc, rhag mynd yn ddigartref.
Mae Cymorth Cymru wedi cytuno i weithio â’r sefydliad i roi cyhoeddusrwydd i’r ddwy gronfa newydd ac i sicrhau bod gan y sector wybodaeth am y cyfleoedd.
Dywedodd Richard Williams, prif weithredwr y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru: “Mae’n bwysig inni fynd allan a gwrando ar y mudiadau sy’n gweithio yn ein cymunedau, ac i glywed ganddynt am eu heriau ac ymhle mae yna fylchau mewn cyllido.
“Roedd y sesiwn yn addysgiadol ac fe roddodd well syniad inni sut y gall ein rhaglenni cyllido gael yr effaith fwyaf yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r rheiny a gymerodd ran ac fe edrychwn ymlaen at ragor o drafodaethau wrth inni roi’r rhaglenni cyllid ar waith fesul cam.”