Tri aelod newydd yn ymuno â bwrdd ymddiriedolwyr Sefydliad Cymunedol Cymru
Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi croesawu tri ymddiriedolwr newydd i’w bwrdd.
Mae Ian Thomas yn dod o Rydaman a graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn Microbioleg. Ar ôl ychydig flynyddoedd mewn ymchwil, aeth i mewn i’r diwydiant dyfeisiau meddygol lle treuliodd y 34 mlynedd nesaf, yn byw ac yn gweithio yn y DU, yr Almaen, y Swistir a’r Emiraethau Arabaidd Unedig.
Gadawodd ei yrfa llawn amser yn 2018, ac ers hynny mae wedi dal nifer o swyddi bwrdd, gan gynnwys Ysgol Dauntsey yn Wiltshire a Sefydliad Cymunedol Wiltshire cyn ymuno â bwrdd Sefydliad Cymunedol Cymru ym Mehefin 2022.
Daw Gaenor Howells o Bonterwyd yng Ngheredigion ond mae’n byw yn Llundain ers deugain mlynedd. Bu’n aelod o Fwrdd Cymru yn Llundain ac, am flynyddoedd lawer, hi oedd yn trefnu’r ‘Dathliad Gŵyl Dewi yn Llundain’ blynyddol yn Guildhall. Gweithiodd gyda Sefydliad Cymunedol Cymru i sefydlu Cronfa Ddyngarol Cymry yn Llundain.
Roedd Gaenor yn ddarlledwraig adnabyddus gyda’i llais i’w glywed gan filiynau ar draws y byd. Am bum mlynedd ar hugain, cyflwynodd y rhaglen flaenllaw, World Briefing a’r prif fwletinau newyddion dyddiol ar BBC World Service.
Ers gadael y BBC, mae Gaenor yn rhedeg cwmni cyfathrebu yn cynnig cyngor cysylltiadau cyhoeddus i’w chleientiaid yn ogystal â hyfforddiant yn y cyfryngau a chyflwyno yn seiliedig ar ei phortffolio eang o ran gyrfa ym maes radio a theledu.
Dechreuodd Ruth James o Sir Ddinbych ei gyrfa mewn Archwilio a Sicrwydd gyda Deloitte yn 2005. Yn fuan ar ôl cwblhau ei siarteriaeth yn 2008, ymunodd Ruth â Jones Bros Civil Engineering UK fel aelod gweithredol o’r bwrdd a bu’n gweithio yn y rôl hon am 12 mlynedd. Ochr yn ochr â’i rôl ar y bwrdd, mae gan Ruth brofiad ymarferol ar draws nifer o weithrediadau grŵp gan gynnwys Strategaeth Fusnes, Cyllid, Iechyd a Diogelwch, Ansawdd, Adnoddau Dynol, Cyflogaeth a Marchnata a Chyfathrebu.
Mae Ruth yn aelod siartredig o’r ICAEW ac mae ganddi brofiad helaeth o reoli rhanddeiliaid, strategaeth fusnes, rheoli gweithrediadau grŵp, darparu prosiectau a rheoli newid.
Dywedodd Alun Evans, Cadeirydd Sefydliad Cymunedol Cymru,
“Rydym yn falch i groesawu ymddiriedolwyr newydd i fwrdd Sefydliad Cymunedol Cymru.
Maent pob un yn cynrychioli gwahanol ardaloedd yng Nghymru ac yn dod â phrofiad eang o sectorau amrywiol gyda nhw. Bydd eu sgiliau yn cefnogi’n gwaith o ran ysbrydoli pobl i roi, i helpu cymunedau Cymru i ffynnu ac i newid bywydau gyda’n gilydd.”