Gaenor Howells

Ymddiriedolwyr

Gaenor Howells

Fy nghefndir

Yn wreiddiol o Bonterwyd, rwyf wedi byw a gweithio yn Llundain ers blynyddoedd lawer. Ers gadael BBC World Service lle’r oeddwn yn gyflwynydd newyddion, rwy’n cynnig cyngor cyfathrebu a chyflwyno i gleientiaid corfforaethol.

Dechreuais ymwneud â Sefydliad Cymunedol Cymru pan ddechreuais i sefydlu Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain a bûm yn gweithio’n agos gyda’r tîm yng Nghaerdydd yn ystod partneriaeth elusennol Sefydliad Cymunedol Cymru gyda Dathliad Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain.

Yr hyn rwy'n ei wneud

Ar ôl ymuno â Sefydliad Cymunedol Cymru yn ddiweddar fel Ymddiriedolwr, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghyd-aelodau o’r Bwrdd ar y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu. Fel Cadeirydd Rhwydwaith Cefnogwyr Llundain sydd newydd ei ffurfio, fy nod yw annog trafodaethau ar gydnabod a chynnig cyfleoedd i Sefydliad Cymunedol Cymru.

Holwch fi ynghylch...

Y llawenydd o wirfoddoli a sut mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn newid bywydau a chymunedau.

Pam rwy'n caru Cymru

Dyma gatre!

Trustees

Gweld y cyfan
Judi Rhys MBE

Judi Rhys MBE

Ymddiriedolwr

Derek Howell

Derek Howell

Ymddiriedolwr

Ian Thomas

Ian Thomas

Ymddiriedolwyr

Ruth James

Ruth James

Ymddiriedolwyr