Emma Beynon

Ymddiriedolwr

Emma Beynon

Fy nghefndir

Rwy’n gweithio yn y sector elusennol yn rheoli prosiect Y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles ar gyfer pobl ifanc. Enw’r prosiect yw Caban Sgriblo ac mae’n cael ei reoli gan Peak yng Nghrughywel.

Cyn ymuno â Peak roeddwn i’n arwain rhaglen gymunedol The Write Team ar gyfer Gwyliau Caerfaddon a oedd yn anelu at ddatblygu Hyder a Lles pobl ifanc.

Rwyf hefyd wedi arwain prosiectau celfyddydol ar ran Cyngor Sir Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Hâf yn ogystal â dysgu yng Ngholeg Gŵyr yn Abertawe.

Yr hyn rwy'n ei wneud

Rwy’n rheoli prosiectau cymunedol, rwy’n darparu gweithdai i bobl ifanc ledled De Powys, y Cymoedd a Sir Fynwy. Rwy’n canolbwyntio ar gyfranogi a chymryd rhan, a, gyda help y tîm rhyfeddol yn Peak, rwy’n rheoli, yn ariannu, yn gwerthuso ac yn dathlu Caban Sgriblo.

Rwy’n mwynhau arwain prosiectau celfyddydol gyda phobl ifanc, defnyddio ysgrifennu creadigol a barddoniaeth i’w helpu i ddatblygu hyder yn yr hyn y maen nhw’n ei wneud ac ym mhwy ydyn nhw. Rwyf wedi ymrwymo’n gadarn i weithio yn y gymuned ac i ddod â chyfleoedd i fannau na fyddai, fel arfer, yn cael cyfle i’w mwynhau.

Rwyf hefyd ym mwynhau hwylio mewn Llong Ysgafn Beilot Môr Hafren yn yr Arctig yn ogystal â rhoi help llaw i‘m teulu ar y fferm.

Holwch fi ynghylch

Y dylanwad positif y mae’r celfyddydau’n ei gael ar ddatblygiad Iechyd a Lles mewn cymunedau yng Nghymru.

Fe fyddwn hefyd wrth fy modd yn trafod gyda chi ffermio yng Nghymru ac am hwylio o amgylch ei harfordir creigiog.

Pam rwy'n caru Cymru

Rwy’n caru Cymru oherwydd yma mae fy nghartref, cefais fy ngeni a’m magu ar fferm yn Rhosili.

Mae llawer o’m hatgofion gorau wedi’u gwneud yng Nghymru. Rwyf wrth fy modd yn edrych ar stoc wedi’u hwsmona’n dda yn cerdded y cylch yn y ‘Grand Parade’ yn y Sioe Fawr.

Rwy’n wirioneddol fwynhau gweithio gyda phobl ifanc yng Nghymru, yn dysgu am eu bywydau ac yn eu helpu i wireddu eu huchelgeisiau.

Roedd yn fraint bod yn rhan o dim Prosiect ‘Skyline’ a bod yn dyst i gymuned yn dod at ei gilydd ac yn cynllunio dyfodol mwy annibynnol, gwyrddach, i Dreherbert

Trustees

Gweld y cyfan
Gaenor Howells

Gaenor Howells

Ymddiriedolwyr

Ian Thomas

Ian Thomas

Ymddiriedolwyr

Ruth James

Ruth James

Ymddiriedolwyr

Sarah Corser

Sarah Corser

Ymddiriedolwr