Andrew Tuggey CBE DL
Ymddiriedolwr

Fy nghefndir
Cefais fy ngwahodd i fod yn un o ymddiriedolwyr Sefydliad Cymunedol Cymru ym mis Ionawr 2018. Bûm yn swyddog yn y Fyddin (1968-2003) ac roeddwn yn ddigon ffodus i wasanaethu ym mhob rhan o’r byd, gan gynnwys chwe blynedd gyda’r Gurkhas. Roedd y fraint o arwain Peirianwyr Brenhinol Sir Fynwy Brenhinol (Milita) wedi dod â fi a’m teulu i Gymru yn 1990. Roedd fy nhaith ddyletswydd olaf gyda’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn y Taleithiau Baltig wrth iddynt ymuno â NATO a’r UE. Ar ôl symud 28 gwaith mewn 28 mlynedd o briodas, gwnaethom ddychwelyd i Sir Fynwy.
Roeddwn i’n ddigon ffodus i ymgymryd ag ail yrfa fel Prif Weithredwr Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad y DU yn y Senedd, gan arwain tîm a oedd yn gweithio i wella ac atgyfnerthu pob agwedd ar ddemocratiaeth a llywodraethu seneddol gyda seneddau partner o wledydd datblygol, sef; craffu, cynrychiolaeth, hawliau dynol, cydraddoldebau, caethwasiaeth fodern, trais yn erbyn menywod a merched, newid hinsawdd.
Dechreuais gydweithio â Sefydliad Cymunedol Cymru pan oeddwn yn Uchel Siryf Gwent yn 2015. Sefydliad Cymunedol Cymru sy’n rheoli Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent ac mae’n dyrannu tua £75,000 bob blwyddyn i brosiectau cymunedol sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc ar hyd a lled Gwent, drwy ei broses unigryw ‘Eich Llais, Eich Dewis’. Gadewais San Steffan ym mis Medi 2017 i ymgymryd â’m trydedd gyrfa.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith fy mod i’n un o ymddiriedolwyr Sefydliad Cymunedol Cymru ac yn eistedd ar yr is-bwyllgor grantiau. Rwy’n cadeirio Panel Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent a Phanel Cynghori Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar Unigrwydd.
Yn ogystal â bod yn Gadeirydd Scouts Cymru ac ABF Elusen y Milwyr yng Ngwent, rwyf hefyd yn aelod o Gyngor Cymdeithas Uchel Siryfion Cymru a Lloegr. Rwy’n cadw cysylltiad â materion democratiaeth a datblygu sy’n ymwneud â’r Gymanwlad ac anrhydedd o’r mwyaf yw bod yn Is-Arglwydd Raglaw Gwent.
Holwch fi ynghylch
Yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu pobl ifanc a sefydliadau ieuenctid yn ein cymunedau, caethwasiaeth fodern, grymuso menywod a merched, cydraddoldebau a chynhwysiant, ymgysylltu pobl ifanc â llywodraethu a democratiaeth seneddol, materion rhyng-ffydd, y Gymanwlad a chyn-filwyr.
Pam rwy'n caru Cymru
Caredigrwydd, haelioni a hiwmor ei phobl; y dreftadaeth, yr hanes a’r diwylliant arbennig; cefn gwlad, arfordir a thirwedd syfrdanol a pherffaith – a’r cyfleoedd aruthrol sydd ar gael ar gyfer llesiant cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.