£10,000 o fuddsoddiad i pum menter gymdeithasol Cymraeg

Ddydd Mawrth, y 3ydd o Dachwedd, cynhaliodd a chroesawodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, ochr yn ochr â phartneriaid yn y digwyddiad, sef Ymddiriedolaeth Fairwood a Capital Law, y trydydd dathliad blynyddol o unig Gronfa Fuddsoddi Micro Fenter Cymru. Sefydwyd y Gronfa yn 2013 i ddarparu modd i bobl gefnogi mentrau cymdeithasol yng Nghymru â’u hamser, eu harian, neu’u doniau, ac mae eisoes wedi dyfarnu £16,000 i wyth o sefydliadau.

Dechreuodd y noswaith â diweddariad gan y fenter gymdeithasol a dderbyniodd gefnogaeth ‘llynedd. Dysgodd gwesteion am y cynnydd a wnaed dros y 12 mis diwethaf, yn ogystal â chael myfyrdodau didwyll ar yr heriau y mae’r busnesau hyn wedi’u hwynebu a’r hyn y maent wedi’i ddysgu ar hyd y daith. Roedd y prosiectau hyn yn cynnwys: Sefydliad Moneypenny, Partneriaeth Parc Caia, a Phrosiect Coedwig a Phentref Niwbwrch, ac Emaus yn Ne Cymru. Fel yr eglurodd Mark Gahan o Brosiect Coedwig a Phentref Niwbwrch: “Nid dim ond ag arian y mae a wnelo fo. Mae a wnelo fo â’r hwb rydym oll wedi’i gael o’r gymeradwyaeth hon i’n syniad.”

Eleni, rhannodd pum menter gymdeithasol, yr oedd pob un mewn gwahanol gyfnod yn ei datblygiad, eu cynnydd, eu syniadau a’u huchelgeisiau â gwesteion o’r sectorau cyfreithiol, ariannol ac elusennol.

Sefydlwyd Purple Shoots gan Karen Davies i ddarparu benthyciadau micro gyllid teg a hyblyg, a ddefnyddir i gefnogi pobl ledled Cymru a chanddynt syniadau busnes sydd ond yn dechrau gweld golau dydd. Ers ei lansio ddwy flynedd yn ôl, mae Purple Shoots wedi cefnogi 175 o egin entrepreneuriaid lleol i gael at gyllid fforddiadwy a chefnogaeth ymarferol a phersonol unswydd bwrpasol. Eglurodd Karen sut y byddai £2,000 gan Gronfa Fuddsoddi Ddyngarol Micro Fenter yn cael ei ddefnyddio i dalu am fan gwag ym marchnad Nadolig awyr agored boblogaidd Caerdydd, gan roi ‘ffenestr siop’ i fuddiolwyr benthyciadau Purple Shoots a hefyd y cyfle iddynt gynyddu nifer eu cwsmeriaid.

Myfyriodd Rachal Minchinton, o Lamau, ar lwyddiannau menter Llamau PAT Testing, sy’n gweithredu fel cyfrwng i ferched a phobl ifanc sy’n agored i niwed ennill profiad a hunanhyder tra eu bod yn dysgu sgiliau newydd. Bydd £2,000 gan y Gronfa yn helpu i ehangu cyrhaeddiad y fenter, gan ganiatáu i fwy o bobl sydd newydd ddod yn ddigartref weithio mewn busnes cymdeithasol sy’n tyfu.

Myfyriodd Sybil Williams, cyfarwyddwr Pedal Power, sef canolfan llogi beiciau hynod boblogaidd yng Nghaerdydd sydd ag ystod eang o feiciau sy’n ystyriol o bobl anabl, ar natur beicio yng Nghymru, a mynegodd ei dymuniad i “newid ein hagweddau tuag at law” drwy ddefnyddio buddsoddiad gwerth £2,000 i ddarparu cotiau glaw dull macintosh marchnatadwy a pharhaol i’w gwerthu a’u llogi.

Portreadodd Stacey Anastasi lun cynhyrfus o’r diwydiant gofal plant yng Nghaerdydd, a dangosodd wir weledigaeth yn ei syniad ar gyfer meithrinfa sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac sy’n gymdeithasol gyfrifol fydd yn darparu gofal plant fforddiadwy gan gynnal safonau o ansawdd uchel. Bydd buddsoddiad gwerth £2,000 yn braenaru’r tir ar gyfer cynllun peilot, gan roi rhagor o hygrededd i gynllun busnes Stacey.

Yn olaf, rhoes y Parchedig James Karran ei gymeradwyaeth i’r addefiad nad oes gan Y Rhath, sef ardal amrywiol yng nghanol Caerdydd, y math o ganolfan gymunedol sy’n caniatáu i bobl o bob oed, diwylliant a chefndir gymysgu. Bydd buddsoddiad gwerth £2,000 yn helpu â’r gwaith marchnata a hyfforddi sydd ei angen i sefydlu Bragdy Llan Brewhouse, sef bar-caffi cymunedol fydd yn croesawu model menter gymdeithasol.

Ar ôl seibiant byr i westeion gael sgwrsio â phob entrepreneur cymdeithasol yn fanylach am eu cynlluniau, gorffennodd y noswaith â diweddariad gwefreiddiol gan Peter Saunders. Fel Dyngarwr Menter ac angel busnes, mae Peter wedi goruchwylio’r gwaith o ddatblygu Sure Chill Ltd, sef cwmni Cymreig sy’n dylunio ac yn cynhyrchu technoleg gadarn ddibynadwy i oergelloedd er mwyn eu defnyddio mewn gwledydd a chanddynt gyflenwadau trydan ansefydlog. Mae oergelloedd Sure Chill yn llythrennol yn achub bywydau drwy sicrhau y gellir cadw brechlynnau pwysig ar y tymheredd gofynnol mewn gwledydd pan dorrir ar gyflenwadau trydan. Cydnabuwyd y dechnoleg reweiddio unigryw ac arloesol hon gan hyd yn oed Sefydliad Bill a Melinda Gates am y potensial sydd ganddi i weddnewid iechyd drwy’r byd. Rhannodd Peter ei gredoau busnes hanfodol, a chymeradwyodd y pum menter am eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i liniaru anghenion gwirioneddol mewn modd gweithredol.

“Mae pob entrepreneur wedi’i ymrwymo i syniadau ac maent bob amser yn cymell newid, yn newid ynddynt eu hunain, yn newid amgylchiadau o fewn y gymuned ac yn newid amgylchiadau o amgylch y byd”, medd Peter Saunders.

Gyda phob un o’r pum prosiect yn derbyn buddsoddiad gwerth £2,000 oddi wrth Gronfa Ddyngarwch Micro Fenter, mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru a buddsoddwyr yn y gronfa yn edrych ymlaen at glywed sut mae pob menter yn datblygu dros y 12 mis nesaf.

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu