20 grantiau ddathlu 20 mlynedd
I ddathlu ein 20fed pen-blwydd, rydyn ni’n cynnig 20 o grantiau ychwanegol gwerth £1,000 yr un o’n Cronfa i Gymru i sefydliadau cymunedol bychan yng Nghymru sy’n cael eu gyrru gan wirfoddolwyr.
Wrth i ni nodi ein 20fed bwyddyn, rydyn ni eisiau dathlu’r gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru, diolch i ymroddiad ac ymdrechion sefydliadau sy’n cael eu gyrru gan wirfoddolwyr.
Bydd enwau’r rhai a fydd yn derbyn yr 20 grant arbennig yn cael eu cyhoeddi yn ein digwyddiad pen-blwydd yng Nghaerdydd ddydd Llun 16 Medi.
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau oddi wrth brosiectau sy’n anelu at gyflawni’r canlyniadau canlynol:
- Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd
- Adeiladu Cymunedau Cryfach
- Gwella amgylcheddau gwledig a threfol
- Annog pobl a chymunedau iachach a mwy bywiog
- Diogelu treftadaeth a diwylliant
Gall grantiau gefnogi costau llawn neu rannol, er enghraifft: costau prosiectau: eitemau ac offer cyfalaf bychan, costau craidd, gweithgareddau (e.e. llogi ystafelloedd, costau cludiant, treuliau gwirfoddolwyr, yswiriant, ffioedd tiwtoriaid, digwyddiadau cymunedol).
Mae’r Gronfa yn agored i elusennau a sefydliadau nid er elw, gyda chyfansoddiad ac yn seiliedig yn y gymuned (e.e. cymdeithasau, mentrau cymunedol a chlybiau):
- y mae’r cyfan o’u buddolion yn byw yng Nghymru
- gydag incwm o lai na £100,000 yn y flwyddyn adrodd ariannol ddiwethaf
- sy’n cael eu gyrru gan wirfoddolwyr a heb fwy nag un aelod o staff cyfwerth llawn amser gydol y flwyddyn
Terfyn amser y Gronfa i Gymru yw 31 Gorffennaf, felly os oes gennych chi brosiect sy’n helpu i wella bywydau ac adeiladu cymunedau cryfach yng Nghymru, ymgeisiwch nawr!