£284,200 o gyllid ar gael i brosiectau arbenigol Cymru ar gyfer merched a genethod bregus

£284,200 o gyllid ar gael i brosiectau arbenigol Cymru ar gyfer merched a genethod bregus

Mae cyfran o £284,200 ar gael ar gyfer gwaith hanfodol grwpiau lleol yng Nghymru sy’n cefnogi merched a genethod gyda phroblemau megis tlodi misglwyf, camdriniaeth ddomestig a rhywiol, iechyd meddwl a diweithdra tymor hir.

Mae’r Gronfa Gymunedol Treth Tampon ar agor i elusennau a grwpiau cymunedol ledled Cymru sy’n gweithio gyda merched o bob oedran a chefndiroedd i adeiladu eu sgiliau, eu hyder a’u hunan barch.

Gall grwpiau o unrhyw le yng Nghymru ymgeisio i Sefydliad Cymunedol Cymru am grantiau o hyd at £10,000. Dim ond ar gyfer prosiectau neu wasanaethau sydd o fudd uniongyrchol i ferched a genethod y gellir defnyddio’r arian.

Rhoddir blaenoriaeth i sefydliadau llawr gwlad, sefydliadau sy’n gweithio gyda merched neu enethod sy’n wynebu nifer o heriau, sefydliadau’n cael eu harwain gan y defnyddwyr a phrosiectau cynaliadwy yn darparu atebion tymor hir.

Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Mae grwpiau llawr gwlad yn gwneud gwaith anhygoel i gefnogi merched a genethod ledled Cymru. Yn aml maen nhw’n cael eu rhedeg ar ychydig iawn, iawn o arian ac yn cael trafferth i gystadlu am arian o’r cronfeydd mwy. Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o rwydwaith cenedlaethol sy’n cael ei gydnabod gan y llywodraeth am ein gwybodaeth leol. Fe fyddwn ni’n defnyddio’r arian hanfodol hwn i gefnogi grwpiau lleol sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau merched.

Sefydliad Cymunedol Cymru fydd yn asesu’r ceisiadau. Bydd prosiectau sy’n cyrraedd y rhestr fer yn mynd at banel lleol a fydd yn penderfynu pa grwpiau fydd yn cael arian.

Mae’n debyg y bydd enwau’r prosiectau llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi’n gynnar yn 2020.

Dyma’r ail dro i Sefydliadau Cymunedol y DU cael ei ddewis gan yr Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i ddosbarthu’r gyfran fwyaf o arian Treth Tampon. Arian yw hwn sy’n cael ei godi trwy dreth ar gynnyrch hylendid merched ac yn cael ei gyflwyno i brosiectau lleol, yn gweithio trwy’r rhwydwaith cenedlaethol o Sefydliadau Cymunedol.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…