Adfywio ymddiriedolaethau yng Nghymru

Daw cyhoeddiad y Comisiwn Elusennol bod rhaglen Revitalising Trusts yn cael ei lansio yng Nghymru fel newyddion gwych i’r trydydd sector a chymunedau yng Nghymru.

Mae prosiect tebyg yn Lloegr wedi bod yn llwyddiant mawr – ac mae’r prosiect yma a arianwyd gan Lywodraeth Cymru yn gobeithio rhyddhau £25m o gronfeydd elusennol sydd allan o gyrraedd ein cymunedau.

Mae’r regiwleiddiwr yn cymryd diddordeb yn yr arian yma – wedi’r cwbl mae yn arian elusennol wedi ei roi am achos penodol, a heb ei ddefnyddio i’r perwyl hwnnw.

Yn aml mae rhesymau teg am hyn. Gall elusennau gael trafferth recriwtio ymddiriedolwyr, er enghraifft, neu ddarganfod dros amser nad ydi ei phwrpas gwreiddiol mor ddilys heddiw. Yn y sefyllfa yma, digon teg ydi dychmygu fod y llythyr o’r Comisiwn Elusennol yn cynnig help yn rhyddhad mawr! Mae’r llythyr yn cynnig opsiwn i drosglwyddo’r gronfa i gael ei adfywio gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

O dan law’r Sefydliad bydd y gronfa yn cael ei ail-fuddsoddi i ddenu gwell perfformiad ac i gynhyrchu rhagor o incwm elusennol. Dyma un o gryfderau’r Sefydliad, y gallu arbenigol i fuddsoddi arian elusennol a gweithio law-yn-llaw a’n rheolwyr cronfeydd er budd grwpiau Cymunedol yng Nghymru.

Bydd y gronfa honno wedyn yn cael ei ddefnyddio’r un pwrpas gwreiddiol, gan wireddu breuddwyd yr ymddiriedolwyr cyntaf a’u cefnogwyr.

Mae hanes stori Cronfa Stanley Bligh yn help wrth egluro hyn.

Roedd Stanley Bligh yn ddoethur, ysgrifennwr a thirfeddiannwr. Bu farw yn 1949 a sefydlwyd Cronfa Goffa Stanley Bligh allan o’i stad. Pwrpas y gronfa oedd i roi bwrsari i fyfyrwyr yn astudio ffarmio, y celfyddydau a gwyddoniaeth. Yn fwy diweddar rheolwyd y gronfa gan Gyngor Sir Powys, gan warchod y gronfa waddol a darparu grantiau yn unol a phwrpas y Gronfa.

Yn 2009 penderfynodd y Cyngor drosglwyddo’r Gronfa i Sefydliad Cymunedol Cymru. Daeth hyn ar ôl trafodaethau efo’r Sefydliad a’r Comisiwn Elusennol. Roedd y Cyngor wedi dod i deimlo fod y gronfa yn mynd yn fwrn ac yn waith oedd tu allan i’w busnes craidd. Bryd hynny roedd y Gronfa werth £722k – mae heddiw, o dan ofal y Sefydliad, werth £1.2m.

Yn yr un amser dosbarthwyd mwy na 300 o grantiau i grwpiau ac unigolion, rhai yn astudio meddyginiaeth, ffarmio defaid a rheoli coedwigaeth.

Mae’r prosiect newydd Revitalising Trusts yn gosod cyfle i gronfeydd tebyg ar hyd Cymru. Bydd yr arian cynaliadwy yma yn rhoi budd amserol iawn i’r sector wrth iddi godi allan o’r pandemig.
Mae cwestiynau wedi eu codi yn barod am bryd bydd yr arian ar gael ac i ba rannau o’r sector. Wrth gwrs mae lot rhy gynnar i wybod hyn eto, mae’n dibynnu yn llwyr ar y cronfeydd a’u natur unigryw. Ond rydym wedi nodi’r diddordeb mawr o gwmpas y prosiect a byddwn yn cyhoeddi diweddariad wrth fynd yn ein blaenau.

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu