Cronfa Croeso Cenedl Noddfa
Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Mae Cronfa Croeso Cenedl Noddfa’n darparu cefnogaeth hanfodol ar gyfer pobl sydd wedi’u dadleoli gan wrthdaro a / neu erledigaeth o wledydd tramor ac sy’n chwilio am noddfa* yng Nghymru.
*Mae’n well gan Ddinas Noddfa y term ‘pobl yn chwilio am noddfa’ yn y rhan fwyaf o gyd-destunau, gan ei fod yn canolbwyntio ar bobl yn gyntaf yn hytrach na’u statws mewnfudo. Mae’n pwysleisio fod pobl yn chwilio am noddfa (diogelwch ac amddiffyniad), nid lloches yn benodol ac felly gellir ei ddefnyddio’n ehangach.
Mae’r gronfa hon hefyd yn gronfa codi arian gyda’r bwriad o gefnogi pobl sy’n chwilio am noddfa nawr ac yn y dyfodol. Bydd holl roddion i’r gronfa hon yn cefnogi elusennau Cymru, grwpiau cymunedol a sefydliadau sydd eisoes yn gweithio gyda phobl sy’n chwilio am noddfa yng Nghymru, i ddarparu cymorth hanfodol i’w helpu i setlo i mewn i’w amgylchiadau newydd.
Byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau oddi wrth grwpiau sy’n gallu dangos gwybodaeth a dealltwriaeth gref o weithio o fewn y maes hwn yn y tymor hirach. Ni all y Gronfa hon gefnogi grwpiau’n gweithio o fewn cymunedau neu grwpiau lleiafrifol sydd eisoes wedi’u sefydlu ac wedi’u setlo ac sydd eisiau gweithio gyda phobl yn chwilio am noddfa, nad oes ganddynt eisoes record amlwg o wneud hynny.
Rydym yn Gwrando
Rydym wedi siarad gyda grwpiau’n gweithio yn y maes hwn ac wedi agor arolwg i sicrhau fod y meini prawf ar gyfer y Gronfa hon yn adlewyrchu’r anghenion mwyaf hanfodol y bobl sy’n chwilio am noddfa. Bwriad y Gronfa hon yw llenwi bylchau ble nad oes arian fel arall ar gael, neu pan fo cynnydd yn y gofyn yn dystiolaeth o’r angen i ehangu gwasanaeth. Rydym yn gwybod fod y sefyllfa’n ansefydlog ac yn newid o hyd, bydd yr arolwg felly’n aros ar agor gyda’r wybodaeth newydd yn dylanwadu ar addasiadau i’r meini prawf. Rydym yn eich annog i ychwanegu’ch llais chi trwy gwblhau’r arolwg neu gysylltu â’r tîm trwy e-bost os oes gennych unrhyw gwestiynau neu wybodaeth a fydd o gymorth i wella’n dealltwriaeth – grants@communityfoundationwales.org.uk. Os teimlwch nad yw’r meini prawf hwn yn bodloni anghenion eich sefydliad, dywedwch wrthym sut yr hoffech i’r gronfa gael ei siapio trwy gwblhau’r arolwg yma.
Mae’n dealltwriaeth wedi amlygu’r anghenion cynyddol a mwyaf brys pobl sy’n chwilio am noddfa sef:
- Talu sylw i’r trawma maen nhw’n ei wynebu wrth ddarparu cefnogaeth emosiynol i wella iechyd meddwl a llesiant
- Cefnogaeth gydag integreiddio a synnwyr o berthyn
Felly, mae Cronfa Croeso Cenedl Noddfa’n derbyn ceisiadau oddi wrth grwpiau sydd eisoes yn gweithio gyda phobl yn chwilio am noddfa er mwyn darparu gwasanaethau cefnogi i dalu sylw i’r problemau hyn. Er enghraifft:
- Gwasanaethau cyfeillio
- Gwasanaethau cyfieithu / iaith
- Gweithgareddau cymunedol / hwb ar gyfer pobl yn chwilio am noddfa a’u teuluoedd i ddod ynghyd
- Cefnogaeth trawma / emosiynol
- Cefnogaeth llinell blaen ychwanegol i ateb y gofyn cynyddol
Nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysol – ei bwriad yw dangos y math o brosiectau y bydd y gronfa hon yn eu cefnogi.
Y grantiau sydd ar gael
Gall sefydliadau ymgeisio am grantiau o hyd at £50,000 y flwyddyn i gefnogi gwaith cysylltiedig â chostau sy’n cefnogi pobl yn chwilio am noddfa o fewn y themâu a nodir uchod.
Cofiwch – ni ddylai’r swm rydych yn ymgeisio amdano fod yn fwy nag 20% o’ch trosiant blynyddol yn y set ddiweddaraf o gyfrifon cyhoeddedig
Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw bod grwpiau’n allu cynllunio ar gyfer y dyfodol a bod cael sicrwydd fod arian ar gael yn gallu rhoi’r hyder a sicrwydd i chi i ddatblygu’ch prosiect dros y tymor hir. Mae Cronfa Croeso Cenedl Noddfa’n cynnig y cyfle i grwpiau ymgeisio am arian ar gyfer un flwyddyn yn unig neu nifer o flynyddoedd hyd at 3 blynedd.
I gael eich ystyried ar gyfer grant tair blynedd, dylech gwblhau’r adran ychwanegol ar y ffurflen gais i ddangos sut rydych yn bwriadu datblygu’ch prosiect dros y cyfnod ariannu yr ymgeisir amdano. Bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried ar gyfer cyllid un flwyddyn os na fyddwch yn llwyddiannus am grant nifer o flynyddoedd.
Ni allwn ariannu ar hyn o bryd
- Prosiectau bwrsari sy’n darparu grantiau / arian parod / offer yn y dyfodol i unigolion
- Grwpiau sydd ond yn gweithio gyda buddiolwyr BAME ac nid yn benodol i bobl sy’n chwilio am noddfa – mae gennym gronfa ar wahân ar gyfer grwpiau BAME. Cewch ddarllen amdani
- Prosiectau bwyd / cyflenwadau / offer / dillad ble mae eitemau’n cael eu dosbarthu i unigolion / teuluoedd – mae gennym gronfeydd eraill ar gyfer rheini. Cewch wybodaeth am gyllid arall sydd ar gael ar ein tudalen grantiau yma.
- Prosiectau sy’n dyblygu gwasanaethau statudol
Pwy sy’n gallu ymgeisio?
Mae’r Gronfa hon ar agor ar gyfer elusennau a sefydliadau cymunedol gyda chyfansoddiad yn benodol ar gyfer gweithio gyda phobl sy’n chwilio am noddfa yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Grwpiau gyda chyfansoddiad
- Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol
- Cwmnïau cyfyngedig gan warant
- Cwmnïau buddiannau cymunedol
- Mentrau cymdeithasol
Sut i wneud cais?
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais ar lein sydd ar gael ar ein gwefan.
Noder:
- Ni roddir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes wedi codi cyn derbyn ein llythyr yn cynnig grant a chyn llofnodi a dychwelyd yr amodau a thelerau
- Nid yw grantiau ar gael fel arfer ar gyfer codi arian nac i gefnogi codi arian ar ran grwpiau ac elusennau eraill
- Rhaid gwario’r grant yn llawn o fewn un flwyddyn o dderbyn ein llythyr o gynnig, oni bai bod cyllid ar gyfer nifer o flynyddoedd yn cael ei ddyfarnu.
Gwybodaeth bwysig am feini prawf y gronfa
Gallai meini prawf y gronfa hon newid.
Er mwyn sicrhau fod yr arian yn mynd ble mae gwirioneddol ei angen, rydym yn ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau sy’n cefnogi’n uniongyrchol bobl wedi’u dadleoli gan wrthdaro a / neu erledigaeth ac sy’n chwilio am noddfa i asesu eu hanghenion presennol ac ymlaen ar ôl hynny.
Byddwn mor hyblyg â phosibl i sicrhau fod arian yn cyrraedd y sefydliadau hynny gynted â bo’n bosibl, a allai olygu ein bod angen newid meini prawf y gronfa yn y dyfodol.

Cysylltu trwy gân
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: