Ceffyl da yw ewyllys

Cyn cychwyn ar fy swydd gyda Sefydliad Cymunedol Cymru, ychydig wyddwn i am fyd cyfreithwyr a’r gyfraith (roedd yn well gen i beidio â mynd i’w gafael!).

Newidiodd hynny’n llwyr pan ddechreuais i dreulio’r rhan fwyaf o’m hwythnos waith yn cyfarfod a thrafod gydag ymgynghorwyr proffesiynol ym mhob rhan o’r wlad.

Roedden ni’n trafod yn y cyfarfodydd hynny mor bwysig yw hi fod eu cleientiaid yn deall manteision ariannol dyngarwch, un ai ar ffurf ymddiriedolaeth elusennol yn ystod eu bywydau neu fel etifeddiaeth elusennol ar ôl iddyn nhw farw.

Ac yn ganolog i hyn i gyd mae’r angen hanfodol am Ewyllys.

A dweud y gwir, tan hynny, doeddwn i erioed wedi meddwl rhyw lawer am ewyllys. Doeddwn i ddim yn teimlo y dylwn i roi ar bapur beth oedd i ddigwydd ar ôl i mi farw, roedd hynny’n ddigon i godi’r felan. A chan fod fy mywyd teuluol ac ariannol yn eithaf syml, pam mynd i’r drafferth a’r gost o fynd at gyfreithiwr.

Mewn gwirionedd, does dim ots pa mor syml ydych chi’n feddwl yw eich amgylchiadau, heb ewyllys, byddwch yn gadael eich anwyliaid mewn sefyllfa gymhleth ar ôl i chi farw.

Os nad oes gennych chi ewyllys, bydd eich holl eiddo’n cael ei rannu mewn ffordd safonol sy’n cael ei diffinio gan y gyfraith. Efallai na fydd pobl rydych chi eisiau gadael rhywbeth iddyn nhw – fel partner, os nad ydych chi wedi priodi – yn cael dim.

Cael ewyllys yw’r unig ffordd i wneud yn siŵr y bydd eich arian a’ch eiddo’n cael eu rhannu rhwng y bobl a’r achosion sy’n bwysig i chi, yn y ffordd rydych chi’n dymuno. Gallwch hyd yn oed wneud cyfarwyddiadau syml, fel pwy fydd yn cael rhai pethau sy’n annwyl i chi.

Heb ewyllys, fydd neb yn gwybod eich dymuniadau a bydd yn rhaid i’r bobl sy’n bwysig i chi wneud penderfyniadau anodd ac, efallai, ddadlau sut y dylid rhannu eich ystâd.

Os yw eich ystâd yn werth mwy na £325,000, gall ewyllys eich helpu i leihau faint o dreth etifeddiaeth sydd i’w dalu ar unrhyw eiddo ac arian y byddwch yn ei adael. Os byddwch yn gadael cyfran o’ch ystâd i elusen, bydd cyfradd eich treth etifeddiaeth yn gostwng, a byddwch yn talu llai o dreth ar y cyfan o’ch ystâd.

7fed o Fedi yw cychwyn ‘Wythnos Cofiwch am Elusen yn eich Ewyllys’ ac, fel rhan o hyn, rydyn ni wedi ymuno â Beyond Wills i roi ffordd hawdd i chi ysgrifennu eich ewyllys ar lein.
Bydd pob ewyllys yn costio £90 a bydd cyfran o’r gost yn cael ei gyfrannu gan Beyond Willis yn syth yn ôl i Sefydliad Cymunedol Cymru.

Drwy ddefnyddio Beyond Wills, gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod wedi cael trefn gyfreithiol ar eich pethau a hefyd eich bod wedi’n helpu ni i gefnogi’r bobl fwyaf bregus mewn cymunedau ledled Cymru, sydd angen ein help ar hyn o bryd yn fwy nag erioed.

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu