Rhannu a thrwsio er mwyn adeiladu cymuned fwy cynaliadwy

Cronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru

“Rwy’n arbennig o ddiolchgar am y gwaith atgyweirio ar degan 43 oed: roedd yn syml, ond nid oeddwn wedi gallu ei wneud. Roedd Prosiect Atgyweirio ac Ailddefnyddio Symudol Caerdydd yn gwybod sut ac roedd y deunyddiau ganddyn nhw.”

Benthyg Cymru yw Llyfrgell Pethau Cymru. Maen nhw’n rhwydwaith gynyddol o 14 cangen gyda’r nod o wneud benthyg ‘mor hawdd â phopio allan am dorth o fara’.

Mae Repair Café Wales yn cefnogi rhwydwaith o dros 57 o Gaffis Trwsio lle mae gwirfoddolwyr yn trwsio pethau am ddim ac yn rhannu eu sgiliau gydag eraill.

Cawsant grant o Gronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru i weithio gyda’i gilydd i sefydlu a rhedeg Prosiect Symudol Caerdydd fel peilot, gan arwain y ffordd ar gyfer prosiectau tebyg o amgylch Cymru.

Mae’r prosiect yn defnyddio fan drydan i helpu pobl i fenthyg yn hawdd drwy gynnig casgliadau a danfoniadau am ddim, ac i drwsio yn haws trwy gynnig caffis trwsio dros-dro a mynd ag offer i Gaffis Trwsio newydd wrth iddynt ennill eu plwyf yng Nghaerdydd.

Dywedodd un teulu:

“Rydym mor ddiolchgar i Benthyg am wneud y cynllun benthyca. Roedd yn gwneud o’n fforddiadwy i ni fenthyg pabell a mynd ar wyliau gyda ffrindiau – diolch yn fawr!”

Bu’r prosiect hefyd mewn digwyddiad Ysbyty Teganau Plant yn Amgueddfa Sain Ffagan lle roedd plant yn dod â theganau a tedi eu hunain i gael eu hatgyweirio. Meddai un sy’n mynychu:

“Ro’n i’n meddwl na ellid byth atgyweirio hyn ac roedd ganddo gymaint o werth sentimental. Diolch yn fawr iawn. ”

Dywedodd Naomi, Cydlynydd Gwirfoddolwyr y prosiect:

“Mae Benthyg Cymru a Repair Café Wales yn rhannu gwerthoedd tebyg iawn. Mae’r ddau ohonom yn credu bod gennym ddigon o stwff yn barod. Ac yn hytrach na phrynu mwy, dylen ni rannu ac atgyweirio’r hyn sydd gennym eisoes.

“Ysbrydoliaeth ein Prosiect Symudol Caerdydd oedd y gred y gallem, gyda’n gilydd, wneud benthyca ac atgyweirio yn hawdd i bobl Caerdydd. Roedden ni’n credu pe bydden ni’n ei gwneud hi’n hawdd, y byddai pobl yn ei wneud, yn dweud wrth eu ffrindiau ac y byddai diwylliant o rannu a thrwsio yn dechrau!

“Mae’r gefnogaeth yma wedi golygu popeth i ni. Daeth ein syniad yn realiti oherwydd y gefnogaeth a ddarparwyd gan Sefydliad Cymunedol Cymru. “

Stories

Cefnogi pobl ifanc i godi proffil teledu a ffilm Gymraeg

Cefnogi pobl ifanc i godi proffil teledu a ffilm Gymraeg

Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain

Cefnogi talent gerddorol Gymreig

Cefnogi talent gerddorol Gymreig

Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain

Helpu eraill trwy gerddoriaeth

Helpu eraill trwy gerddoriaeth

Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain

Meithrin Cysylltiadau a Chefnogi Teuluoedd

Meithrin Cysylltiadau a Chefnogi Teuluoedd

Cronfa i Gymru