Chwalu’r Chwedlau – a yw ceisiadau am arian o Gymru mor wirioneddol wael â hynny?

Chwalu’r Chwedlau  – a yw ceisiadau am arian o Gymru mor wirioneddol wael â hynny?

Pan sefydlodd Sefydliad Cymunedol Cymru’r prosiect Ymddiriedolaeth a Sefydliad yng Nghymru, un o’r prif heriau oedd deall yn well beth yn union sydd y tu ôl i’r honiadau cyson isod gan arianwyr ynghylch ceisiadau o Gymru:

  • Nid yw llawer o arianwyr yn derbyn ceisiadau am arian o Gymru (mae Cymru’n ‘fan oer’ iddyn nhw).
  • Pan maen nhw’n derbyn ceisiadau, dydyn nhw ddim cystal â cheisiadau o rai o ranbarthau eraill.

Rydym wedi dod i ddeall ychydig yn well pam nad oes cymaint o geisiadau’n dod o Gymru. Mae hyn oherwydd, yn rhannol, mai dim ond tua 25% o’r Trydydd Sector yng Nghymru sy’n elusennau a bod mwy na 50% o grwpiau’n cael eu hystyried yn ficro neu fach. Mae’r ddau reswm hyn yn golygu nad yw’r grwpiau hynny’n aml yn gymwys ar gyfer arian gan Ymddiriedolaethau a Sefydliadau.

Rydym yn ceisio dyfalu ar hyn o bryd sut y gallwn ni oresgyn hyn, trwy ystyried y gefnogaeth sylfaenol sy’n cael ei gynnig i grwpiau, megis gwell cyngor ar ba fath o gorff nid er elw y dylid ei sefydlu, sut i weithio mewn partneriaeth ac i gael gwahanol ffynonellau o godi arian.

Nawr, fe hoffen ni ddod i ddeall rhagor am yr ail bwynt ynghylch ansawdd y ceisiadau o Gymru ac rydym yn gofyn i chi cysylltu â ni os ydych chi â rhan mewn ariannu Ymddiriedolaethau a Sefydliadau.

A yw hyn yn broblem yn eich sefydliad chi? Os felly, byddwn yn wirioneddol hoffi clywed beth ydych chi’n ei ystyried sy’n ansawdd salach.

A yw hynny’n strwythur / llywodraethiant sefydliadol gwan? Neu a yw’n golygu methu â chyfleu’n ddigon da beth yw’r prosiect pan fydd yna broses ymgynghori? Neu nad yw’n glir pam fod angen y prosiect, beth fydd ei effaith, faint fydd yn ei gostio a sut y bydd yn cael ei ariannu?

Rydym yn amau nad un broblem ar ei phen ei hun yw hyn, ond, mae’n debyg, cymysgedd o bethau. Mae’n anodd deall yn iawn sut i gefnogi Trydydd Sector Cymru i fod yn fwy cystadleuol heb, yn gyntaf, ddeall beth yw’r gwendidau.

Efallai bod eich Ymddiriedolaeth neu’ch Sefydliad chi’n teimlo nad oes ganddo ddigon o wybodaeth i’w alluogi i gymryd penderfyniad gwybodus ar gais o Gymru.

Gallwn ni eich helpu gyda’n harbenigedd cadarn a’n gwybodaeth o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu grwpiau ledled Cymru, llawer yn rhai rydyn ni wedi gweithio gyda nhw ers blynyddoedd.

Byddwn wrth ein bodd clywed oddi wrthych chi, er mwyn rhannu’n profiad a’ch helpu chi i gymryd penderfyniadau gyda mwy o wybodaeth a dealltwriaeth o amgylchiadau Cymru.

Cofiwch gysylltu, buaswn wrth fy modd yn clywed oddi wrthych, ai er mwyn trafod ariannu, am Gymru neu i’m helpu i ganfod beth sy’n wir a beth nad yw’n wir; mae fy nrws ar agor pob amser.

E-bostiwch fi andrea@communityfoundationwales.org.uk neu ewch ar LinkedIn.

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu