Cinio Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain i gefnogi Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain
Cynhaliwyd Cinio Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain eleni yn Guildhall, Dinas Llundain, i gefnogi Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain yn y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Gydag ystod o siaradwyr Cymraeg gwadd, a cherddorion a chantorion o Opera Cenedlaethol Cymru, cynhaliodd y noswaith draddodiad cryf o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yng nghraidd Llundain.
Dechreuodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru weithio ochr yn ochr â Chymru yn Llundain ym mis Mawrth, 2015, gyda sefydlu Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain. Mae’r Gronfa’n cefnogi Cymry ifainc uchelgeisiol i ddilyn eu nodau proffesiynol ac addysgol. Y noswaith arbennig iawn hon oedd y ddiweddaraf mewn cyfres o hybiau cyffrous i broffil y Gronfa, lle y gwahoddwyd pobl a chanddynt gysylltiadau cryfion â Chymru i roi yn ôl i greu’r un cyfleoedd a all fod wedi bod yn fudd iddyn’ nhw.
Ar ôl areithiau gwadd gan chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Jamie Roberts, a Robert Buckland, QC, AS, siaradodd Liza Kellett, Prif Weithredwr y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, am y gwerth o osod esiampl o roi yn ôl, ac o annog eraill i wneud hynny.
“Cerddwn ochr yn ochr â llawer o roddwyr sydd eisiau helpu pobl ifanc, ac wrth imi sgwrsio â rhai o’r 100 fwy neu lai hynny o fyfyrwyr rydym yn eu cefnogi bob blwyddyn ag ysgoloriaethau – o brentisiaid trin gwallt i fyfyrwyr Gradd Meistr – caf yn wastad fy syfrdanu gan y ffaith mai cydnabyddiaeth, cael eu hystyried yn deilwng o ddiddordeb rhywun arall, sydd bron mor bwysig â’r elfen ariannol i’w helpu i gyflawni’u hamcanion.
“Mae llawer ohonom wedi bod yn ddigon ffodus i gael rhiant, noddwr, neu fentor i gerdded ochr yn ochr â NI.
“Dyma’r cymhelliad gwaelodol sydd gan Gronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain – cefnogi Cymry ifainc mentrus ac uchelgeisiol i fynd ar drywydd eu breuddwydion.
“A chan ddilyn eich esiampl chi o roi yn awr, gobeithiwn eu hannog nhw wedyn i roi yn ôl eu hunain.”
Mae Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain yn Gronfa unigryw a reolir gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, ac mae’n enghraifft o’r effaith y gellir ei chael pan fo corff corfforaethol neu fudiad aelodaeth yn dewis cyfeirio’u rhoi drwy wasanaethau dyngarwch unswydd bwrpasol y Sefydliad.
Mae gan y Gronfa ar hyn o bryd £50,000, ac mae ganddi uchelgais hirdymor o adeiladu gwaddol sylweddol i ariannu bwrsariaethau ac ysgoloriaethau blynyddol. Bydd pob rhodd i mewn i’r Gronfa (tan fis Mai 2016) yn derbyn arian cyfatebol i mewn i’r Gronfa i Gymru, diolch i Her Arian Cyfatebol y Gronfa Loteri Fawr i Gymru, gan ddyblu effeithiau rhoddion a chefnogi prosiectau cymunedol ledled Cymru, yn ogystal â ffocws y Gronfa ar ysgoloriaethau unigol.