Cronfa argyfwng yn helpu cymunedau Cymru yn barod
Ymysg rhai sydd wedi derbyn grantiau gan Cronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru mae banc bwyd sydd yn ddosbarthu bwyd hanfodol i’r henoed a pobl sydd yn hunan-ynysu yn Blaenau Gwent, yn ogystal a gwasanaeth cefnogaeth brys i deuluoedd sydd gyda aelod anabl yn Powys.
Drwy’r broses o asesu ceisiadau grant, rydym ni wedi gweld sut ma elusennau a grwpiau cymunedol yn addasu i gynnig cefnogaeth yn ystod yr amser anodd yma, gyda ffocws ar ddosbarthu bwyd i’r henoed a pobol bregus, yn ogystal a’i helpu i gadw mewn cysylltiad gyda’r gymuned leol.
Lansiodd Sefydliad Cymunedol Cymru y Gronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru i gefnogi elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau di-elw sydd yn gweithio gyda’r rhai mwyaf bregus yn Gymru.
Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:
“Rydym ni wedi gorlethu gyda’r ymateb i’r gronfa yma – mae elusennau yn Nghymru yn gwynebu sefyllfa argyfwng wrth i’w incwm leihau mewn amser lle mae’r angen ar ei gwasanaethau ar ei uchaf a mwyaf angenrheidiol.
Rydym yn deallt bod teuluoedd mewn sefyllfa anodd ac ansicr ar y funud ond os oeddech yn meddwl sut y gallwch wneud gwahaniaeth i’r gymuned, dyma’r amser i sefyll i fyny.
Mi fyddwn yn ddiolchgar iawn o unrhyw gyfraniad i’r gronfa – bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu yn sydun i’r rheng flaen, i gefnogi pobl bregus mewn cymunedau ar draws Gymru.”
Lansiodd Sefyldiad Cymunedol Cymru y gronfa yn gychwynol gyda £200,000 a mae’r gronfa wedi ei dreblu gyda’g diolch i gyfraniadau gan gwmnioedd mawr fel Admiral a Sefydliad Waterloo, yn ychwanegol i gyfraniadau hael gan Ffrindiau Sefydliad Cymunedol Cymru a phobl Cymru.
Mae’r gefnogaeth mae’r gronfa wedi’i dderbyn hyd heddiw wedi bod yn wych ond mae angen mwy i sicrhau bod cymorth ar gael i bawb sydd ei angen.
Rydym ni yn annog y cyhoedd a busnesau i ystyried rhoi cyfraniad i’r apêl ar-lein.
I wneud yn siwr ei’n bod yn cynnig y cefnogaeth gorau bosib i bobl Cymru, rydym ni wedi partneru gydag Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol (NET), sydd wedi lansio Apêl Coronafirws NET.
Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn gweithio gydag NET i ddosbarthu £100,000 o’r apêl i rhai yn Nghymru sydd ei angen fwyaf.