Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain yn agor ar gyfer y ceisiadau cyntaf

Diolch i arweinyddiaeth ac ysbrydoliaeth aelodau mudiad Cymru yn Llundain, mae’r Sefydliad Cymunedol wrth eu bodd o lansio cylch cyntaf Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain.
 
Cynhaliodd Quilter Cheviot digwyddiad lansio ysblennydd ym mis Mawrth 2015, gyda awdur nofelau trosedd Cymraeg Harry Bingham yn siarad am ei brofiadau plentyndod ffurfiannol yng Nghymru a’r gwerth o roi yn ôl. Mae’r Gronfa yn canolbwyntio ar gefnogi myfyrwyr mentrus a phobl fusnes ar ddechrau eu gyrfaoedd i ffynnu a chyflawni eu huchelgeisiau.
 
Gwesteion a fynychodd y digwyddiad oedd y rhoddwyr cyntaf i’r Gronfa, a diolch i eu cyfraniadau a rhoddion hael a wnaed yng Nghinio Dydd Gŵyl Dewi ym mis Mawrth 2016, mae’r Gronfa gwaddol yn awr yn gallu gwneud ei ddyfarniadau cyntaf.
 
Eglurodd Liza Kellett, Prif Weithredwr y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, “Rwyf yn llawn cyffro y gallwn yn awr agor y gronfa hon i bobl uchelgeisiol ac sy’n llawn cymhelliant sydd ar drywydd eu nod proffesiynol ac addysgol.

“Cerddwn ochr yn ochr â llawer o roddwyr sydd eisiau helpu pobl ifanc, a phan fyddaf yn sgwrsio â rhai o’r 100 fwy neu lai o’r myfyrwyr hynny rydym yn eu cefnogi bob blwyddyn ag ysgoloriaethau – o brentisiaid trin gwallt i fyfyrwyr Gradd Meistr – gwneir argraff arnaf bob amser gan y ffaith bod hyn yn gydnabyddiaeth o gael eich ystyried yn deilwng o ddiddordeb rhywun arall; mae hynny’r un mor bwysig â’r elfen ariannol o’u helpu i gyflawni’u nod. 

“Mae llawer ohonom wedi bod yn ddigon ffodus o gael rhiant, noddwr, neu fentor i gerdded wrth ein hochr.  Dyma’r cymhelliad sylfaenol sydd gan Gronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain – i gefnogi Cymry ifainc mentrus ac uchelgeisiol i fynd ar drywydd eu breuddwydion.  A chan ddilyn esiampl ein rhoddwyr, gobeithiwn eu hannog i roi yn ôl eu hunain wedyn.”

Mae Cymru yn Llundain yn darparu cyswllt i Gymru ac yn caniatáu rhai yn Llundain i ymwneud â materion sy’n bwysig i Gymru . Mae’r fforwm yn Llundain yn lle y gall pobl Cymru gyfrannu at y trafodaethau cenedlaethol ar faterion cymdeithasol, economaidd, chwaraeon, creadigol a busnes. Gall grantiau o’r gronfa dalu costau sy’n gysylltiedig â bod yn fyfyriwr, ysgoloriaethau, bwrsariaethau busnes, profiad gwaith a datblygu gyrfa yn Llundain neu’r tu allan i Gymru.

I ymgeisio, mae’n rhaid ichi gwblhau ffurflen gais y gellir ei chanfod ar dudalen we Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain neu fel arall, fe allwch gysylltu â’r Sefydliad ar 02920 379 580 neu drwy anfon e-bost at grants@cfiw.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

Gall unigolion ymgeisio am grantiau rhwng £500 a £1,250.

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu