Cylch Rhoi Byd-eang Cyntaf y Byd – diolch!
Fel uchafbwynt i’n rhaglen Cylch Rhoi beilot a gefnogir gan Sefydliad Pears, cynhaliasom ein digwyddiad Cylch Rhoi Byd-eang ar-lein cyntaf erioed i annog pobl i roi i achosion lleol gan uno rhwydwaith byd-eang o ddyngarwyr i ddangos eu cariad at Gymru.
Dywedodd Liza Kellett, Prif Weithredwr y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru,
“Dyma oedd ein cam cyntaf i fenter rhoi byd-eang a estynnodd allan i bobl sy’n caru Cymru o bob cwr o’r byd. Roedd yn gyfle dysgu llawn hwyl a gwefreiddiol i dîm y Sefydliad gynnal ymgyrch ar raddfa mor fawr a defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol lluosog – mewn gwirionedd, credaf mai dyma oedd cylch rhoi byd-eang cyntaf y byd! Hoffwn ddweud ‘Diolch yn fawr iawn’ wrth bawb a gefnogodd yr ymgyrch, a diolch i’w cefnogaeth nhw, rhoesom gyllid grant i bum prosiect Cymreig teilwng ledled y byd.”
Dewisodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru bum sefydliad ‘trysor’ i gynrychioli’r ystod eang o waith cymunedol ac elusennol sy’n cynnal ac yn dathlu diwylliant, treftadaeth, iaith a chymunedau Cymraeg a Chymreig.
Cafodd yr holl roddion a dderbyniwyd arian cyfatebol bunt am bunt, ac fe’i rhannwyd yn gyfartal rhwng y pum ‘trysor’ a leolir yng Ngogledd America, Patagonia, Llundain a Chymru.
Ein pum trysor:
Cymdeithas Cymru-Ariannin / Wales-Argentina Society – Patagonia, Yr Ariannin
Fel yng Nghymru, mae Eisteddfodau’n ffordd boblogaidd o ddathlu diwylliant Cymraeg yn yr Ariannin, a bydd y Gymdeithas yn defnyddio grant o’r Cylch Rhoi Byd-eang i gynnal gweithdai canu gwerin Cymraeg traddodiadol ar gyfer cymunedau ledled y rhanbarth. Nododd 2015 150 fed pen-blwydd sefydlu’r wladfa Gymreig ym Mhatagonia, a bydd y Gymdeithas yn adeiladu ar y cysylltiadau diwylliannol newydd a’r egni a’r diddordeb o’r newydd a gododd o’r dathliadau hyn.
Ysgol Gymraeg Llundain – Llundain, y Deyrnas Unedig
Ysgol Gymraeg Llundain yw’r unig ysgol gynradd Gymraeg yn Llundain. Gyda chyllid oddi wrth y Cylch Rhoi Byd-eang, bydd disgyblion hŷn yn creu ffilm fer am y Mabinogi, sef casgliad enwog o hanesion o lenyddiaeth ganoloesol Cymru, a phostio’u gwaith ar-lein i gynorthwyo dysgwyr Cymraeg drwy’r byd i gyd.
Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig – Ohio, UDA
Mae gan Ganolfan Madog rôl hanfodol i ddatblygu cyrhaeddiad diwylliannol Cymru yn yr UDA. A hithau wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Rio Grande a Choleg Cymunedol Rio Grande yn Ohio, roedd gan y ganolfan lyfrgell a chanolfan adnoddau; lle deniadol i werthfawrogi treftadaeth Gymreig a diwylliant Cymreig modern. Rhoddir arian a godir drwy’r Cylch Rhoi Byd-eang tuag at ddeunyddiau dwyieithog a rhagor o wybodaeth hanesyddol i ymwelwyr.
Clwb Cinio Llai – Wrecsam, Gogledd Cymru
Mae Clwb Cinio Llai yn grŵp llawn hwyl a chroesawgar i bobl hŷn yn Wrecsam. Gyda chymorth rhoddion i’r Cylch Rhoi Byd-eang, bydd aelodau’r clwb yn llunio llyfryn addysgiadol o’r enw “Pan Oeddech yn Ifanc”, sy’n dod â myfyrdodau personol o brofiadau aelodau ynghyd â chyngor ymarferol gan wirfoddolwyr ynglŷn â sut i sefydlu clwb llwyddiannus cyffelyb.
Cadwraeth Camlas Pontypridd – Pontypridd, De Cymru
Lleolir camlas Sir Forgannwg o fewn safle treftadaeth hanesyddol arwyddocaol yng nghymoedd De Cymru. Bydd grant gan y Cylch Rhoi Byd-eang yn golygu y gallant logi’r cyfarpar y mae arnynt ei angen i atgyweirio ac adfer mwy o’r gamlas. I gloi, cadarnhaodd Liza, “Rydym wrth ein bodd o ddweud bod pob ‘trysor’ Cylch Rhoi Byd-eang wedi derbyn grant o £1,254 tuag at eu prosiectau arfaethedig.
“Roedd y rhaglen beilot yn rhychwantu dwy flynedd, pryd y cynhaliwyd deg ‘amrywiad ar thema’ Cylchoedd Rhoi: 8 ledled Cymru, 1 yn Llundain ac 1 yn seiberofod! Gwnaeth y fenter arian cyfatebol gwerth £50,000 a ddarparwyd gan Sefydliad Pears drosoli i mewn £73,676 yn rhagor mewn rhoddion dyngarol ychwanegol, a gefnogodd 33 o elusennau,prosiectau, neu weithgareddau, gan ymgysylltu’n weithredol a chyflwyno 674 o bobl i’r cysyniad o Gylch Rhoi.
“Ffordd wirioneddol lawn ysbrydoliaeth a hwyl o hyrwyddo ac o annog dyngarwch ac o brofi y gallwn gyda’n gilydd wneud gwahaniaeth.”