Dal Dy Dir yn siarad gyda Dug Caergrawnt

Mae Dal Dy Dir, sydd wedi’i leoli yng Nghanolbarth Cymru, yn darparu ystod eang o wasanaethau a cefnogaeth i unigolion a theuluoedd ag anableddau neu’r rhai sydd ar yr ymylon yn ein cymunedau.

Mae ganddyn nhw pecyn o dir yng Nghanolbarth Cymru lle maen nhw’n tyfu cynnyrch, yn datblygu sgiliau coed ac yn gofalu am eu hanifeiliaid gyda’u gwirfoddolwyr.

herwydd argyfwng coronafirws mae eu cyfranogwyr yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar gyflenwadau, rhwydweithiau cymorth ac amser seibiant. Mae nifer o’r bobl hyn mewn risg uchel iawn oherwydd eu cyflwr iechyd ac mae angen cefnogaeth brys arnynt.

Mae Dal Dy Dir wedi derbyn cyllid gan Sefydliad Cymunedol Cymru drwy’r Chronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru i addasu eu prosiect. Maent bellach yn gallu darparu sesiynau seibiant brys i’r rhai yn y sefyllfaoedd mwyaf difrifol, llinell gymorth frys 24 awr ac maent yn creu grwpiau cyfryngau cymdeithasol a fydd yn hanfodol i bobl sydd fel arfer yn dod at ei gilydd ar y fferm.

Maent yn gweithio mewn partneriaeth â Fare Share i ddosbarthu bwydydd dros ben o archfarchnadoedd i gyflenwi parseli bwyd i bobl sydd yn hunan ynysu neu mewn perygl. Maent yn datblygu mwy o le i dyfu er mwyn caniatáu iddynt dyfu llysiau a cefnogi mwy o bobl â chynnyrch ffres o’r fferm.

Un o’u mentrau arall maent yn ei wneud yw datblygu pecynnau garddio i ganiatáu pobl i dyfu cynnyrch ffres eu hunain. Bydd hyn yn gwella eu iechyd meddwl ac yn helpu i ddatblygu cymuned garddio cymdeithasol.

Cyfwelwyd Natalie o Dal Dy Dir gan Ei Uchelder Brenhinol, Dug Caergrawnt ar 12fed o Ebrill. Gallwch weld y cyfweliad drwy clicio yma.

Mae’r cyllid i gefnogi Dal Dy Dir wedi dod o Ymddiriedolaeth Argyfwng Genedlaethol. Mae Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth i ddosbarthu’r arian yma yn gyflym ac yn effeithlon yng Nghymru.

Dyma fideo gan Dal Dy Dir sydd yn dweud mwy am y gwaith arbennig maen’t yn ei wneud:

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu