Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent

Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, I gyd, Sir Fynwy, a Torfaen

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y gwybodaeth am grantiau eraill sydd ar gael i chi.

Nod Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent yw darparu bywyd o ansawdd, mwy diogel a gwell i bobl Gwent trwy gefnogi mentrau a phrosiectau cymunedol sydd yn cefnogi pobl ifanc i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dyfernir grantiau mewn digwyddiad rhoi grantiau cyfranogol blynyddol ar 8 Mawrth 2025. Rhaid i grantïon llwyddiannus gytuno i drefnu ymweliad gan yr Uchel Siryf yn ystod blwyddyn ariannol 25/26, fel amod o’u dyfarniad grant.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Uchel Siryf Gwent.

Pa fath o brosiectau fydd yn cael eu cefnogi?

I fod yn llwyddiannus, rhaid i brosiectau ddangos sut mae eu gweithgareddau’n cyfrannu at un neu fwy o’r canlynol:

  • darparu cefnogaeth i bobl ifanc sy’n berthnasol iddynt a’r heriau sy’n eu hwynebu yn y 2020au, gan gynnwys sefydlu ymddygiad digidol diogel trwy eu helpu i ddeall risgiau a pheryglon cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd;
  • gweithio gyda phobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o effaith a chanlyniadau troseddau, gan gynnwys fandaliaeth, difrod troseddol, camddefnyddio alcohol a chyffuriau neu gam-drin sylweddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a seiberfwlio;
  • lleihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy greu cyfleoedd i bobl ifanc a allai fod yn gyflawnwyr ac yn ddioddefwyr troseddau fel cam-drin ar y stryd, fandaliaeth a seiberfwlio;
  • targedu achosion sylfaenol trosedd a mynd i’r afael â’r problemau sy’n gyrru pobl ifanc i droseddu;
  • cynnwys pobl ifanc mewn gweithgareddau cadarnhaol sy’n darparu mwy o gefnogaeth gymdeithasol, modelau rôl cadarnhaol a ffactorau amddiffynnol eraill i’w helpu i ddatblygu’n ddinasyddion da yn y dyfodol;
  • cefnogi dioddefwyr troseddau, gan gynnwys cam-drin domestig a chaethwasiaeth fodern, ac amddiffyn y bregus.

Y grantiau sydd ar gael

Grantiau am 1 flwyddyn

Gwahoddir grwpiau i wneud cais am grantiau o hyd at £5,000 i’w wario yn 2025-26 ar ystod o gostau a allai gynnwys:

  • Treialu prosiect newydd
  • Costau rhedeg rhaglen o weithgareddau
  • Prynu offer a deunyddiau 

Beth yw rhoi grantiau cyfranogol?

Mae rhoi grantiau cyfranogol yn golygu gosod penderfyniadau gwneud grantiau gyda’r gymuned leol. Mae’n galluogi pobl leol i benderfynu ar y ffordd orau i fynd i’r afael â materion lleol trwy ddewis cefnogi mentrau sy’n dangos atebion effeithiol orau i’r problemau sy’n wynebu cymunedau yng Ngwent.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent.

Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i ddod i’n digwyddiad rhoi grantiau blynyddol ar 8 Mawrth 2025 yn Y Fenni. Bydd digwyddiad 2025 yn cael ei gynnal mewn lleoliad yn Ysgubor y Degwm, Priordy Santes Fair, Monk Street, Y Fenni, NP7 5ND. Gwnewch yn siwr bod cynrichiolydd o’ch sefydliad ar gael ar y dyddiad yma cyn gwneud cais.

Pwy all wneud cais?

Bydd y Gronfa yn cael ei defnyddio i gefnogi prosiectau ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed.

Mae’r Gronfa ar agor i grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol ac elusennau lleol yng Ngwent (ardaloedd awdurdodau lleol Casnewydd, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy a Chaerffili).

Byddwn yn blaenoriaethu sefydliadau ar lawr gwlad lle mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu prosiectau. Bydd prosiectau sydd wedi derbyn arian yn y gorffennol yn cael eu hystyried. Dylai prosiectau o’r fath ddangos sut y bydd cyllid parhaus yn eu helpu i atgyfnerthu neu wella effaith y prosiect. Nid oes angen seibiant o ddwy flynedd bellach ar ôl 3 blynedd o gyllid grant parhaus.

Sut i wneud cais?

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais trwy ein gwefan.

Rhaid i bob grŵp lenwi ffurflen gais ar-lein erbyn 12yh ddydd Llun 4 Tachwedd 2024.

Cofiwch:

  • Bydd digwyddiad Uchel Siryf Eich Llais, Eich Dewis 2025 Gwent yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 8 Mawrth 2025. Lleoliad: Ysgubor y Degwm, Priordy Santes Fair, Monk Street, Y Fenni, NP7 5ND.
  • Rhaid i grantïon llwyddiannus gytuno i drefnu ymweliad gan yr Uchel Siryf yn ystod blwyddyn ariannol 25/26, fel amod o’u dyfarniad grant.
  • Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau a dynnir cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, a dychwelwyd y telerau a’r amodau llofnodedig.
  • Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
  • Rhaid gwario’r grantiau’n llawn o fewn blwyddyn o dderbyn ein llythyr cynnig.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cliciwch yma
An icon of a clipboard with ticks.
Group of young people dressed in outdoor gear sitting on a rock.

Gwella bywydau pobl ifanc drwy weithgaredd awyr agored

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Waddol Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Gwyddoniaeth Gogledd Ddwyrain Cymru – Unigolion

Conwy, Gogledd Cymru, I gyd

Cronfa Waddol Cynnal – Unigolion

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn