Cronfa Addysg ar gyfer Dinbych a’r Cyffiniau
I gyd, a Sir Ddinbych
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Mae’r Gronfa ar gyfer Dinbych a’r Cyffiniau yn cefnogi addysg unigolion a mentrau addysgol penodol. Mae’r prosiect yn chwilio am geisiadau gan:
- Prosiectau sy’n cefnogi cyrhaeddiad/datblygiad addysgol plant a phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.
- Prosiectau sydd wedi’u lleoli mewn ysgolion/colegau sy’n cefnogi hyfforddiant galwedigaethol, materion iechyd a ffyrdd iach o fyw
- Prosiectau cynhwysiant addysgol gyda chymorth ar gyfer myfyrwyr rhwng 11 a 25 oed ar ffurf bwrsariaethau, ysgoloriaethau, cymorth teithio, diwylliant, chwaraeon, gwobrau ar gyfer cyrhaeddiad a deunyddiau/cyfarpar addysgol (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr)
Grantiau ar gael
- Gall sefydliadau wneud cais am grantiau o hyd at £1,000 y flwyddyn.
Ble bo achos eithriadol dros gefnogi (yr achos i’w gyflwyno gan yr ymgeisydd), bydd grantiau o hyd at £5,000 yn cael eu dyfarnu.
Pwy all wneud cais?
- Elusennau, grwpiau a sefydliadau sy’n rhedeg prosiectau a gweithgareddau er budd plant a phobl ifanc yn byw yn Ninbych ac ardaloedd Cyngor Cymunedol Nantglyn, Henllan, Bodfari, Aberchwiler, Llandyrnog, Llanrhaeadr yng Nghinmerch, Llanynys, Llanefydd a Llansannan ar hyn o brydsy’n disgyn y tu allan i ddarpariaeth statudol. (e.e. clybiau ar ôl ysgol, clybiau brecwast, prosiectau garddio ayb.)
Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gallu dangos sut yn union y byddant yn bodloni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi cael cymorth gan y Gronfa hon o’r blaen.
Sut i wneud cais?
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan.
Cofiwch:
- Ni roddir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes wedi codi cyn derbyn ein.
- Llythyr yn cynnig grant a chyn llofnodi a dychwelyd yr amodau a thelerau.
- Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar ran grwpiau ac elusennau eraill.
- Rhaid gwario’r grant yn llawn o fewn un flwyddyn o dderbyn ein llythyr o gynnig.
- Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.
Meini prawf Cronfa Addysg ar gyfer Dinbych a’r Cyffiniau
Darganfyddwch fwyGwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais
Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y gwybodaeth am grantiau eraill sydd ar gael i chi.
Cliciwch ymaYsbrydoli gwyddonwyr y dyfodol
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: