Cronfa Addysg ar gyfer Dinbych a’r Cyffiniau

I gyd, a Sir Ddinbych

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Mae'r gronfa hon bellach ar gau. Cofrestrwch i'n cylchlythyr Grantiau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd yn y dyfodol.

Mae’r Gronfa ar gyfer Dinbych a’r Cyffiniau yn cefnogi addysg unigolion a mentrau addysgol penodol. Mae’r prosiect yn chwilio am geisiadau gan:

  • Prosiectau sy’n cefnogi cyrhaeddiad/datblygiad addysgol plant a phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.
  • Prosiectau sydd wedi’u lleoli mewn ysgolion/colegau sy’n cefnogi hyfforddiant galwedigaethol, materion iechyd a ffyrdd iach o fyw
  • Prosiectau cynhwysiant addysgol gyda chymorth ar gyfer myfyrwyr rhwng 11 a 25 oed ar ffurf bwrsariaethau, ysgoloriaethau, cymorth teithio, diwylliant, chwaraeon, gwobrau ar gyfer cyrhaeddiad a deunyddiau/cyfarpar addysgol (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr)

Grantiau ar gael

  • Gall sefydliadau wneud cais am grantiau o hyd at £1,000 y flwyddyn.

Ble bo achos eithriadol dros gefnogi (yr achos i’w gyflwyno gan yr ymgeisydd), bydd grantiau o hyd at £5,000 yn cael eu dyfarnu.

Pwy all wneud cais?

  • Elusennau, grwpiau a sefydliadau sy’n rhedeg prosiectau a gweithgareddau er budd plant a phobl ifanc yn byw yn Ninbych ac ardaloedd Cyngor Cymunedol Nantglyn, Henllan, Bodfari, Aberchwiler, Llandyrnog, Llanrhaeadr yng Nghinmerch, Llanynys, Llanefydd a Llansannan ar hyn o brydsy’n disgyn y tu allan i ddarpariaeth statudol. (e.e. clybiau ar ôl ysgol, clybiau brecwast, prosiectau garddio ayb.)

Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gallu dangos sut yn union y byddant yn bodloni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi cael cymorth gan y Gronfa hon o’r blaen.

Sut i wneud cais?

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan.

Cofiwch:

  • Ni roddir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes wedi codi cyn derbyn ein.
  • Llythyr yn cynnig grant a chyn llofnodi a dychwelyd yr amodau a thelerau.
  • Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar ran grwpiau ac elusennau eraill.
  • Rhaid gwario’r grant yn llawn o fewn un flwyddyn o dderbyn ein llythyr o gynnig.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y gwybodaeth am grantiau eraill sydd ar gael i chi.

Cliciwch yma
Cronfa Addysg ar gyfer Dinbych a’r Cyffiniau
Cronfa Addysg ar gyfer Dinbych a’r Cyffiniau

Ysbrydoli gwyddonwyr y dyfodol

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Gwyddoniaeth Gogledd Ddwyrain Cymru – Unigolion

Conwy, Gogledd Cymru, I gyd

Cronfa Waddol Cynnal – Unigolion

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Cronfa Caryl & Henry Bettws (Casnewydd)

Casnewydd, De Cymru a I gyd

Cronfa’r Teulu Brown

Caerdydd, De Cymru a I gyd