Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton

I gyd, a Sir Penfro

Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau

Mae’r gronfa hon yn awr yn agored. Byddwn hefyd yn argymell eich bod yn cofrestru i'n Cylchlythyr Grantiau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau.

Nod Cronfa Addysg Plwyf Rudbuxton yw gwella addysg plant a phobl ifanc o dan 25 oed sy’n byw ym Mhlwyf Rudabaxton yn Sir Benfro.

Gall unigolion ddefnyddio grantiau ar gyfer y canlynol:

  • Grantiau i gwmpasu costau myfyrwyr mewn addysg bellach/addysg uwch
  • Grantiau i ddisgyblion ysgol ar gyfer deunyddiau, cyfarpar a gweithgareddau/teithiau

Gallai enghreifftiau gynnwys: bwrsariaethau prifysgol, cyfarpar/deunyddiau ar gyfer cyrsiau addysg uwch, costau teithio i’r coleg, ffioedd cwrs (lle nad oes cymorth arall ar gael e.e. benthyciad myfyriwr)

Gall sefydliadau ddefnyddio grantiau ar gyfer y canlynol:

  • Cyfrannu tuag at gostau cynnal prosiect
  • Mân waith cyfalaf
  • Prynu cyfarpar a deunyddiau
  • Cyfrannu at gostau deunyddiau addysgol a theithiau

Gallai enghreifftiau gynnwys: menter ieuenctid sy’n seiliedig ar y gymuned, rhaglen addysg gymunedol, clybiau yn ystod y gwyliau a theithiau addysgol.

Yn 2020 cyhoeddodd Sefydliad Cymunedol Cymru ganfyddiadau ymchwil a wnaed gyda mwy na 100 o grwpiau cymunedol ar draws Cymru. Amlygodd ein hadroddiad Yn Uchel ac yn Groch fod elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru eisiau i arianwyr roi blaenoriaeth i arian craidd ac i bartneriaethau tymor hirach. Rydym wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn yr adroddiad hwn i’n helpu i ffurfio ein Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton ac i ddangos i grwpiau ein bod yn credu yn eu dibenion craidd a’n bod ni eisiau eu cefnogi i weithio’n fwy effeithiol yn eu cymunedau yn y tymor hirach.

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw bod grwpiau’n allu cynllunio ar gyfer y dyfodol a bod cael sicrwydd fod arian ar gael yn gallu rhoi’r hyder a sicrwydd i chi i ddatblygu’ch prosiect dros y tymor hir. Erbyn hyn, mae Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton yn cynnig cyfle i grwpiau ymgeisio am arian am sawl blwyddyn, hyd at dair blynedd, ond bydd hefyd yn dal ati i gynnig arian ar gyfer prosiectau un flwyddyn neu eitemau cyfalaf bychain.

Rydym yn gobeithio gallu dyrannu o leiaf un grant tair blynedd y flwyddyn. I gael eich ystyried ar gyfer grant tair blynedd, dylech gwblhau’r adran ychwanegol ar y ffurflen gais i ddangos sut rydych yn bwriadu datblygu’ch prosiect dros y cyfnod ariannu yr ymgeisir amdano. D.S. Bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried ar gyfer cyllid un flwyddyn os nad ydych yn llwyddiannus am grant tair blynedd.

Rydym hefyd yn cydnabod ei bod yn anodd cael arian craidd, yn enwedig yn y tymor hirach. Erbyn hyn, mae grwpiau’n gallu ymgeisio am arian tuag at gostau craidd am hyd at dair blynedd, cyn belled bod y grŵp yn gallu cyflwyno cyfrifon ar gyfer o leiaf y 12 mis diwethaf a bod y swm yr ymgeisir amdano’n llai na 50% o’r trosiant blynyddol. Er enghraifft i ymgeisio am grant o £1,000 y flwyddyn, dylai’ch incwm blynyddol fod yn £2,000 o leiaf.

Y grantiau sydd ar gael

  • Gall unigolion wneud cais am grantiau o hyd at £1,000 y flwyddyn
  • Gall sefydliadau wneud cais am grantiau o hyd at £2,000 y flwyddyn

Mewn amgylchiadau eithriadol, gallai’r ymddiriedolwyr ystyried dyfarnu grantiau mwy lle y gellir cyflwyno achos cryf dros gymorth.

Pwy all wneud cais?

  • Unigolion o dan 25 oed sy’n byw ym Mhlwyf Rudabaxton.
  • Grwpiau cymunedol/gwirfoddol ac elusennau lleol sydd naill ai wedi’u lleoli yn Rudabaxton neu y mae eu gwaith yn rhoi budd uniongyrchol i unigolion o dan 25 oed yn Rudabaxton. Gall ysgolion a Chymdeithasau Rhieni Athrawon wneud cais ond dim ond ar gyfer prosiectau sydd y tu allan i ddarpariaeth statudol

Sut i wneud cais?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.

Ffurflen gais grŵpFfurflen gais ar gyfer unigolion

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cliciwch yma
Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa True Venture

Conwy, Gogledd Cymru, Gwynedd

Cronfa Effaith Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – cronfa costau byw

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg