Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y gwybodaeth am grantiau eraill sydd ar gael i chi.

Cronfa Cymru gyfan yw Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’ Principality a sefydlwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu’r Principality gyda’r nod o ddylanwadu’n bositif ar gymdeithas ac ar fywydau pobl ifanc yng Nghymru.

Bydd y gronfa’n cefnogi’r trydydd sector a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i helpu / annog

  • Mwy o bobl ifanc yn cael mynediad at fwyd iach ac eitemau hanfodol eraill gan gynnwys dillad, deunydd ysgrifennu a thechnoleg.
  • Mwy o bobl ifanc i adeiladu cadernid ariannol ar gyfer ansicrwydd bywyd
  • Mwy o bobl ifanc yn paratoi ar gyfer y dyfodol a byd gwaith (gan gynnwys meithrin sgiliau)
  • Mwy o bobl ifanc yn byw’n gynaliadwy ac yn cymryd rhan mewn gwarchod ein hamgylchedd naturiol
  • Mwy o bobl ifanc yn cael y cymorth iechyd meddwl y mae arnynt ei angen

Bydd y prosiectau rydym yn eu cefnogi’n bodloni un o’r themâu hyn –

  • Datblygu hyfforddiant a / neu sgiliau ar gyfer cyflogaeth
  • Cefnogi iechyd meddwl a llesiant
  • Dysgu sgiliau ariannol (e.e. cynilo a chyllidebu)
  • Ymwybyddiaeth amgylcheddol a / neu gymdeithasol a chadwraethol
  • Cynnal gweithdai ar draws unrhyw un o’r themâu uchod e.e. coginio’n iach ar gyllideb, siopa wythnosol craff,
  • Cefnogi ymyriadau sy’n helpu disgyblion/myfyrwyr â bywyd ysgol a rhoi’r cyfleoedd gorau iddyn nhw am lwyddo

Byddwn yn blaenoriaethu sefydliadau a phrosiectau sy’n ei gwneud yn haws i’r rhai sy’n cael eu tan-wasanaethu neu’n fregus fanteisio ar y gronfa. Mae hyn yn cynnwys prosiectau sy’n cefnogi unigolion gyda chefndir o nodweddion gwarchodedig, deddf cydraddoldeb 2010 ac unigolion o rai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

Grantiau ar gael

  • Dyfernir grantiau o hyd at £20,000 y flwyddyn am ddwy flynedd i sefydliadau trydydd sector y mae eu gwaith yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc o dan 25 oed.

Pwy sy’n gallu ymgeisio?

Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau gan sefydliadau sydd ag incwm o dros £600,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Rydym yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau nad ydynt erioed wedi derbyn arian o’r Gronfa hon o’r blaen.

Ardal ddaearyddol a gyllidir: Cymru a changhennau’r Principality ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Os ydych chi’n sefydliad sydd wedi’i leoli yng Nghaer, Croesoswallt, Henffordd neu’r Amwythig, archebwch alwad gyda Swyddog Grantiau, fel y gallwn benderfynu a yw eich lleoliad yn gymwys i gael cyllid.

Mae’n rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:

  • Grwpiau gyda chyfansoddiad
  • Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol
  • Cwmni cyfyngedig gan warant
  • Cwmnïau buddiannau cymunedol
  • Mentrau cymdeithasol

Sylwch nad ydych yn gymwys i wneud cais os oes gennych grant aml-flwyddyn gweithredol o’r gronfa hon a ddyfarnwyd o fewn y 12 mis diwethaf.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

Bwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n gofyn i sefydliadau yng Nghymru ystyried effeithiau tymor hir eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl a cymunedau a gyda’i gilydd a rhwystro problemau parhaus rhag codi, megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid hinsawdd.

Rydym yn awyddus i annog sefydliadau i feddwl nid yn unig am y gymuned ble maen nhw’n byw ac yn gweithio ynddi, ond hefyd sut mae’u gwaith yn gydnaws â ac yn cyd-fynd â gwasanaethau a gweithgareddau grwpiau a sefydliadau eraill, rhai gwirfoddol a rhai statudol. Fe hoffen ni i chi ystyried sut y gallai’ch sefydliad weithio gydag eraill er mwyn ychwanegu gwerth a gweithio mewn partneriaeth yn hytrach na chystadlu. Cofiwch egluro yn eich cais eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn ogystal ag ar gyfer y presennol. Fe hoffen ni weld sut mae grwpiau’n gweld effeithiau tymor hir eu penderfyniadau er mwyn gallu gweithio gyda, ar y cyd, ag eraill.

Sut i wneud cais?

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein y gellir ei chyrchu trwy ein gwefan.

Sylwer

  • Trwy gydol mis Ionawr 2025 mae ymrwymiad i weithio gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality a Sefydliad Cymunedol Cymru i gynhyrchu marchnata a chyfathrebu sy’n dathlu’r Sefydliadau/Grwpiau a ddyfarnwyd.
  • Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau a dynnir cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, a dychwelwyd y telerau a’r amodau llofnodedig.
  • Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
  • Os dyfernir grant aml-flwyddyn, rhaid gwario’r flwyddyn gyntaf o grant o fewn blwyddyn i dderbyn ein llythyr cynnig.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cliciwch yma
An icon of a clipboard with ticks.

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni ar 02920 379 580 neu anfonwch e-bost i grants@cfiw.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.






    A young girl standing next to a donkey and holding its reins.

    Ffermio ar gyfer iechyd meddwl a lles

    Darllen mwy

    Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

    Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

    Parhewch

    Grants

    Gweld y cyfan

    Cronfa Waddol Cynnal

    Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

    Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

    Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

    Cronfa Gwyddoniaeth Gogledd Ddwyrain Cymru – Unigolion

    Conwy, Gogledd Cymru, I gyd

    Cronfa Waddol Cynnal – Unigolion

    Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn