“Mae’r fferm wedi helpu i ddatblygu fy sgiliau cymdeithasol, gan fy helpu i gyfathrebu’n well ag eraill.”

Mae Fferm Gymunedol Abertawe yn fferm ddinesig dan arweiniad y gymuned ac yn ceisio gwella lles, meithrin sgiliau a chreu ymdeimlad o berthyn.

Cawsant gyllid tuag at eu prosiect Clwb Fferm lle mae pobl ifanc yn dod at ei gilydd i redeg gwaith y fferm waith, gofalu am anifeiliaid, gweithio’r tir a gerddi ar gyfer cynhyrchu bwyd a chadwraeth.

Mae Clwb Fferm yn darparu i amrywiaeth o bobl ifanc, gan gynnwys pobl gyda ADHD, ASD a gorbryder. Maent yn cynnig lle diogel i fagu hyder, cynyddu sgiliau a meithrin perthnasoedd.

Hyd yn hyn, mae 46 o bobl ifanc wedi mynychu sesiynau Clwb Fferm i wella eu hiechyd meddwl a’u lles. Maent wedi gwneud hyn drwy wirfoddoli i wella safle’r fferm, cynorthwyo gyda chynnal digwyddiadau, tyfu bwyd a gwella mannau chwarae a chynefinoedd i bobl a bywyd gwyllt.

Mae pobl ifanc wedi dweud nad ydyn nhw “angen cuddio” pan maen nhw yn y Clwb Fferm gan eu bod ymysg pobl ifanc eraill sydd mewn sefyllfa debyg iddyn nhw ac maen nhw’n gallu bod yn nhw eu hunain.

Mae rhieni wedi adrodd bod mynychu yn rhoi ymdeimlad o ryddid i’w plant, gydag un fam i berson ifanc 13 oed sy’n galaru am golli ei mam-gu yn dweud:

“Mae’n gadael iddi fod yn rhydd o’i phryderon. Mae hi’n gallu mynychu a bod yn hi ei hun.”

Dywedodd rhiant i blentyn 17 oed sy’n hynod bryderus ac sydd â mudandod dethol:

“Mae dysgu sut i ofalu am yr anifeiliaid, a chaniatáu iddi wneud hynny, wedi rhoi hunan-barch iddi, ac wedi magu ei hyder. Mae bod ar y fferm yn rhoi’r cyfle iddi fod mewn sefyllfaoedd cymdeithasol gwahanol, sydd yn ei dro yn helpu i ddatblygu ei hyder, i adeiladu sgiliau cyfathrebu arnynt. Mae’n rhoi ffocws i’w bywyd, fel arall byddai hi’n sownd yn y tŷ y rhan fwyaf o’r amser.”

Dywedodd rhiant i berson ifanc 13 oed sydd ag anhwylder bwyta difrifol:

“Mae hi’n caru anifeiliaid, ac maen nhw’n helpu hi i allu siarad gyda phlant eraill, mae ganddyn nhw rywbeth yn gyffredin. Mae’r fferm yn ei helpu i ryngweithio ag eraill ac yn ei helpu i deimlo’n ‘normal’.”

 

Stories

Trawsnewid bywydau ifanc

Trawsnewid bywydau ifanc

Gronfa i Gymru

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Cronfa i Gymru

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cronfeydd Sir y Fflint