Cronfa Gwaddol Cymuned Powys
I gyd, a Powys
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Ar hyn o bryd mae pedair rhaglen grant yng Nghronfa Powys sy’n cynnig cefnogaeth i unigolion a grwpiau ym Mhowys at ddibenion hyrwyddo addysg a dysgu gydol oes a chefnogi hamddena a gweithgareddau hamdden.
Mae grantiau ar gael at y dibenion canlynol:
- Hyrwyddo addysg a dysgu gydol oes
- Cefnogi gweithgareddau chwaraeon a hamdden
Y Grantiau Sydd ar Gael
Mae’r Gronfa’n grantiau ar gael o:
- hyd at £1500 i grwpiau
hyd at £500 – £1000 i unigolion.
Mae manylion isod y rhaglenni sydd ar agor i geisiadau.
Mae gan bob rhaglen feini prawf ac ardal benodol ar gyfer ei buddiant. Does DIM rhaid i chi ymgeisio ar gyfer cynllun penodol; bydd ein tîm grantiau’n cyflwyno eich cais i’r gronfa fwyaf perthnasol.
Cronfa Goffa Stanley Bligh
Nod Cronfa Goffa Stanley Bligh yw cefnogi astudiaethau addysgol ym maes coedwigaeth, amaethyddiaeth a phynciau technegol a galwedigaethol ym maes y celfyddydau neu’r gwyddorau.
Y grantiau sydd ar gael
Mae grantiau o £500 – £1000 ar gyfer unigolion a £1,500 ar gyfer grwpiau ar gael.
Mae enghreifftiau o gostau a gafodd eu cefnogi yn y gorffennol yn cynnwys:
- Ffioedd cyrsiau (ble nad oes cefnogaeth arall ar gael)
- Prynu offer
- Defnyddiau addysgol
- Teithio (os yw’n golygu budd addysgol arwyddocaol i unigolyn / grŵp a / neu gymuned)
- Costau rhedeg prosiect addysg gymunedol penodol.
Pwy all wneud cais?
Mae’r gronfa’n cefnogi unigolion a sefydliadau cymunedol / gwirfoddol ym Mhowys a rhoddir blaenoriaeth i drigolion Sir Frycheiniog neu’r rhai sydd wedi mynychu Ysgol Uwchradd Sir Frycheiniog am o leiaf 2 flynedd.
- Mae’r rhain yn cynnwys:
- Grwpiau gyda chyfansoddiad/Cymdeithas Anghorfforedig
- Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIO)
- Cwmni cyfyngedig dan warrant (nid er mwyn elw preifat)
- Cwmnïau Budd Cymunedol (CIC)
- Mentrau Cymdeithasol
Hen Ysgol Ramadeg y Merched, Cronfa Aberhonddu
Mae’r gronfa hon yn anelu at gefnogi addysg trigolion yr hen Sir Frycheiniog ym Mhowys.
Y grantiau sydd ar gael
Mae grantiau ar gael o £500 i unigolion a £1,500 i grwpiau.
Mae enghreifftiau o gostau a gefnogwyd o’r blaen yn cynnwys:
- Ffioedd cyrsiau (ble nad oes cefnogaeth arall ar gael)
- Prynu offer
- Defnyddiau addysgol
- Teithio (os yw’n golygu budd addysgol arwyddocaol i unigolyn / grŵp a / neu gymuned) Costau rhedeg prosiect addysg gymunedol penodol.
Pwy all wneud cais?
Mae’r Gronfa’n cefnogi unigolion a sefydliadau cymunedol / gwirfoddol yn Sir Frycheiniog.
Cronfa Ymddiriedolaeth Dosbarth Sir Drefaldwyn
Mae’r gronfa hon yn anelu at ddarparu adnoddau ar gyfer hamddena a hamdden er budd trigolion Sir Drefaldwyn gyda’r nod o wella amodau byw y trigolion hynny.
Y grantiau sydd ar gael
Mae grantiau o hyd at £1,000 ar gael.
Yn nodweddiadol, dyfarnwyd grantiau:
- I brynu offer neu ddefnyddiau
- Mân waith cyfalaf
- Offer neu newidiadau i adeiladau
Mae enghreifftiau o fuddiolwyr blaenorol yn cynnwys:
- Grwpiau plant / ieuenctid
- Canolfannau cymunedol a neuaddau pentref
- Grwpiau diwylliannol / celfyddydol
- Clybiau chwaraeon
- Grwpiau hamddena / hamdden
Pwy all wneud cais?
Ystyrir ceisiadau oddi wrth grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau lleol yn Sir Drefaldwyn.
Cronfa Elusennol Ysgol Uwchradd Llandrindod
Mae’r gronfa hon yn anelu at ddarparu cefnogaeth addysg i bobl sydd wedi mynychu Ysgol Uwchradd Llandrindod sy’n symud i ymlaen i addysg bellach / uwch neu hyfforddiant.
Y grantiau sydd ar gael
Mae grantiau o hyd at £500 ar gael i gefnogi.
- Bwrsarïau ar gyfer costau addysg uwch
- Offer, defnyddiau a thŵls er mwyn dechrau mewn proffesiwn neu grefft
Cymorth i fyfyrwyr sy’n astudio cerdd neu’r celfyddydau
Pwy all wneud cais?
- Disgyblion sy’n mynychu Ysgol Uwchradd Llandrindod
- Disgyblion sydd wedi mynychu Ysgol Uwchradd Llandrindod am o leiaf ddwy flynedd ac sydd ag un neu’r ddau riant yn byw yn Sir Faesyfed.
Yn 2020 cyhoeddodd Sefydliad Cymunedol Cymru ganfyddiadau ymchwil a wnaed gyda mwy na 100 o grwpiau cymunedol ar draws Cymru. Amlygodd ein hadroddiad Yn Uchel ac yn Groch fod elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru eisiau i arianwyr roi blaenoriaeth i arian craidd ac i bartneriaethau tymor hirach. Rydym wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn yr adroddiad hwn i’n helpu i ffurfio Cronfa Waddol Gymunedol Powys a dangos i grwpiau ein bod yn credu yn eu dibenion craidd a’n bod ni eisiau eu cefnogi i weithio’n fwy effeithiol yn eu cymunedau yn y tymor hirach.
Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw bod grwpiau’n allu cynllunio ar gyfer y dyfodol a bod cael sicrwydd fod arian ar gael yn gallu rhoi’r hyder a sicrwydd i chi i ddatblygu’ch prosiect dros y tymor hir. Erbyn hyn, mae Cronfa Waddol Gymunedol Powys yn cynnig cyfle i grwpiau ymgeisio am arian am sawl blwyddyn, hyd at dair blynedd, ond bydd hefyd yn dal ati i gynnig arian ar gyfer prosiectau un flwyddyn neu eitemau cyfalaf bychain.
Rydym yn gobeithio gallu dyrannu o leiaf un grant tair blynedd y flwyddyn. I gael eich ystyried ar gyfer grant tair blynedd, dylech gwblhau’r adran ychwanegol ar y ffurflen gais i ddangos sut rydych yn bwriadu datblygu’ch prosiect dros y cyfnod ariannu yr ymgeisir amdano. D.S. Bydd eich cais yn dal igael ei ystyried ar gyfer cyllid un flwyddyn os nad ydych yn llwyddiannus am grant tair blynedd.
Rydym hefyd yn cydnabod ei bod yn anodd cael arian craidd, yn enwedig yn y tymor hirach. Erbyn hyn, mae grwpiau’n gallu ymgeisio am arian tuag at gostau craidd am hyd at dair blynedd, cyn belled bod y grŵp yn gallu cyflwyno cyfrifon ar gyfer o leiaf y 12 mis diwethaf a bod y swm yr ymgeisir amdano’n llai na 50% o’r trosiant blynyddol. Er enghraifft i ymgeisio am grant o £2,000 y flwyddyn, dylai’ch incwm blynyddol fod o leiaf £4,000.
Sut i wneud cais?
Os ydych chi’n meddwl eich bod yn gymwys ar gyfer cefnogaeth o gronfa’r ymddiriedolaeth, cwblhewch ffurflen gais a’i dychwelyd atom ni erbyn y terfyn amser er mwyn cael eich ystyried.
Mae’n rhaid i bob grŵp gwblhau ffurflen gais ar lein sydd ar gael trwy’n gwefan. Os ydych chi’n ymgeisio fel unigolyn, dylech lawrlwytho fersiwn dogfen Word o’r ffurflen gais o’n gwefan a’i llenwi.
Does dim angen nodi i ba Gronfa rydych yn anfon y cais, byddwn ni’n gwneud yn siŵr y bydd yn cael ei gyfeirio at y cynllun mwyaf briodol.
Mae yna ddwy wahanol ffurflen gais, yn dibynnu a ydych yn ymgeisio am grant fel unigolyn neu ar ran sefydliad. Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn cwblhau’r ffurflen gais gywir gan fod y ddwy yn gofyn am wybodaeth wahanol.
Os ydych yn ymgeisio ar ran grŵp / sefydliad, mae’n bwysig eich bod hefyd yn cynnwys y dogfennau cefnogi angenrheidiol.
Sicrhewch eich bod wedi darllen ac yn deall meini prawf y gronfa a’n safonau gofynnol cyn cwblhau eich cais.
Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol

Fy mhrofiad amhrisiadwy yng Nghanada
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: