Fy mhrofiad amhrisiadwy yng Nghanada

Cronfa Gwaddol Cymuned Powys

Mae myfyriwr yn astudio ar gyfer BSc Anrh mewn Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Harper Adams a dyfarnwyd £500 iddi er mwyn ei helpu i dalu ffioedd y cwrs, prynu llyfrau ar gyfer y cwrs a’r costau sy’n gysylltiedig â byw oddi cartref. Roedd y grant hefyd wedi ei galluogi i deithio i Ganada i gael profiad gwaith unigryw.

“Mae’r grant a gefais wedi fy ngalluogi i wella fy mhrofiad a’m gwybodaeth drwy deithio. Ym mis Ebrill 2017, es i i Ontario, Canada am bythefnos lle bues i’n ymgymryd â phrofiad gwaith yn wyna. Roedd teithio i fferm defaid yng Nghanada yn brofiad unigryw ac rwyf wedi cael profiad gwerthfawr iawn. Mae’r cyfle dysgu gwych hwn wedi rhoi mwy o hyder i mi deithio dramor ac wedi pwysleisio’r cyfleoedd gwych mae teithio yn eu cynnig, fel cyfarfod â phobl newydd a dysgu oddi wrthynt. Roedd y cyllid yn ddefnyddiol iawn gan fy mod wedi gwneud hyn yn wirfoddol, ac nid oeddwn yn cael fy nhalu gan mai profiad gwaith roeddwn yn ei wneud.

Ers teithio i Ganada, rwyf wedi parhau â’m hastudiaethau ym Mhrifysgol Harper Adams ac yn ddiweddar, rwyf wedi dechrau fy ail flwyddyn yn astudio BSc mewn Amaethyddiaeth (Anrh). Mae fy nghwrs yn cynnwys lleoliad diwydiannol yn nhrydedd flwyddyn fy astudiaethau. Felly, rwyf wedi bod yn gwneud ceisiadau am swyddi ar leoliad. Mae’r profiad gwerthfawr a gefais drwy deithio i Ganada wedi gwella fy CV ac mae’n dangos fy mod yn barod i ddysgu ac archwilio syniadau gwahanol yn y diwydiant amaethyddol. Mae’r profiad unigryw wedi bod yn rhywbeth i’w drafod mewn cyfweliadau, ac mae’r profiad hwn wedi fy helpu i sicrhau lleoliad yn llwyddiannus. Mae’r profiad gwych a gefais yng Nghanada wedi fy annog i deithio.”

Stories

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Cronfa i Gymru

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cronfeydd Sir y Fflint

Lles yn y coed

Lles yn y coed

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies