Cronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch
I gyd, a Sir y Fflint
Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau
Mae cyllid o Gronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch wedi cael ei ddefnyddio i wneud y canlynol:
- Prynu cyfarpar a chynnal gweithgareddau ar gyfer grwpiau/elusennau sydd wedi’u lleoli ym Mhenarlâg sy’n gweithio gyda phobl sy’n agored i niwed y mae angen cymorth arnynt
- Gall grwpiau neu sefydliadau ymgeisio am grantiau ar ran eu sefydliad neu ar ran unigolion y maent yn eu cefnogi. Os yw sefydliadau’n ymgeisio ar ran unigolyn, fe fydd yn rhaid i’r Sefydliad gwblhau ffurflen cofrestru Sefydliad cyn cyflwyno cais ar ran yr unigolyn.
- Prynu eitemau hanfodol i’r cartref e.e. nwyddau gwyn, dillad gwely, carpedi ac ati
- Prynu eitemau sy’n hanfodol i leihau nifer y bobl sy’n dioddef tlodi tanwydd a bywyd (e.e. parseli bwyd, blancedi, poteli dŵr poeth, dillad thermol, trwsio boeleri)
- Gwneud gwaith trwsio hanfodol a/neu ailaddurno
- Darparu clybiau cinio, cydweithfeydd bwyd, gweithgareddau sy’n hyrwyddo cydlyniant cymunedol, lleihau ynysu a lleihau tlodi
Pwy all wneud cais?
- Gall sefydliadau sy’n gweithio ag unigolion sy’n agored i niwed wneud cais am grant argyfwng ar eu rhan. Dylai sefydliadau gwblhau’r ‘Ffurflen Cofrestru Sefydliadau’ cyn neu ochr yn ochr â’r cais cyntaf i greu cyfrif gyda ni. Dylid wedyn cwblhau ‘ffurflen gais unigol’ ar gyfer pob un unigolyn/teulu sydd angen cymorth.
- Gall sefydliadau sy’n gweithio o fewn y maes cymwys ar gyfer budd cymunedol wneud cais gan ddefnyddio’r ‘ffurflen gais i sefydliadau’.
Mae plwyf hynafol Penarlâg yn cynnwys y wardiau modern canlynol:
Aston, Dwyrain Brychdyn, Gorllewin Brychdyn, Bwcle, Pentrobin, Ewloe, Penarlâg, Mancot, Cyffordd Saltney Mold, Saltney Stonebridge, Sealand, Dwyrain Shotton, Shotton Uchaf, Gorllewin Shotton.
Sut i wneud cais?
Bydd angen i sefydliadau gofrestru gyda’r Sefydliad trwy gwblhau’r ffurflen gais ‘Word’ sydd ar gael ar ein gwefan i lawrlwytho cyn gwneud cais am grantiau i unigolion.
Dylai Gweithwyr Cymorth gysylltu â ni gyda chod post y person rydych yn ei gefnogi fel y gallwn wirio cymhwysedd cyn gwneud cais.
Ffurflen gais y sefydliadGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: