Cronfa Ysgolion Caerdydd a’r Fro

Bro Morgannwg, Dinas Caerdydd, a I gyd

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y gwybodaeth am grantiau eraill sydd ar gael i chi.

Nod Cronfa Ysgolion Caerdydd a’r Fro yw cefnogi’r canlynol:

  • prosiectau sy’n cefnogi datblygiad addysgol plant o’r blynyddoedd cynnar i 18 oed
  • prosiectau allgyrsiol yn yr ysgol sy’n cefnogi materion iechyd a byw’n iach

Grantiau ar gael

  • Gall sefydliadau wneud cais am grantiau hyd at £2,000 y flwyddyn am hyd at tri blynedd

Pwy all wneud cais?

  • Ysgolion yn ardaloedd Awdurdod Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhedeg prosiectau i hyrwyddo addysg sydd y tu allan i ddarpariaeth statudol. (E.e. clybiau ar ôl ysgol, clybiau brecwast, prosiectau garddio ac ati)
  • Elusennau a grwpiau dielw sy’n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion yn yr Awdurdod Lleol yn cefnogi plant a phobl ifanc gyda phrosiectau/gweithgareddau y tu hwnt i ddarpariaeth y Cwricwlwm
    Cenedlaethol.

N.B. Enghraifft o brosiect a fyddai’n cyd-fynd â’r meini prawf: Grŵp dawns ieuenctid sydd eisiau mynd i ysgolion yn ardal yr awdurdod lleol i gyflwyno sesiynau blasu gyda phobl ifanc.

Sut i wneud cais?

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan.

Cofiwch:

  • ni roddir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes wedi codi cyn derbyn ein
  • llythyr yn cynnig grant a chyn llofnodi a dychwelyd yr amodau a thelerau
  • nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar ran grwpiau ac elusennau eraill
  • rhaid gwario’r grant yn llawn o fewn un flwyddyn o dderbyn ein llythyr o gynnig
  • rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion
    cymorth ychwanegol

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cliciwch yma
Cronfa Ysgolion Caerdydd a’r Fro
Cronfa Ysgolion Caerdydd a’r Fro

Ni faswn wedi gallu fforddio cost y cwrs dawns… ond mi orffenais efo’r radd uchaf erioed

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Waddol Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Gwyddoniaeth Gogledd Ddwyrain Cymru – Unigolion

Conwy, Gogledd Cymru, I gyd

Cronfa Waddol Cynnal – Unigolion

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn