Helpu plant a phobl ifanc i ddelio â’u galar

Cronfa Waddol Gymunedol Casnewydd

“Do’n i ddim yn gwybod os oedd sut o’n i’n teimlo yn normal. Ar ôl siarad gyda rhywun o’n i’n teimlo’n well.”

Mae Gofal Hosbis Dewi Sant yn darparu ystod o wasanaethau i gleifion a’u teuluoedd drwy gydol y daith o salwch terfynol.

Mae eu Gwasanaeth Prosiect Uncorn yn cefnogi plant a phobl ifanc drwy brofedigaeth oedolyn. Mae’r sesiynau yn helpu plant a phobl ifanc i siarad am eu profiadau ac i lunio eu “stori” er mwyn gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd.

Cafodd Gofal Hosbis Dewi Sant grant gan Gronfa Gwaddol Cymunedol Casnewydd i brynu adnoddau hanfodol i helpu i hwyluso sgyrsiau a chefnogi cyfranogwyr i ddod o hyd i’r geiriau cywir i ddisgrifio sut maen nhw’n teimlo. Roedd hyn yn cynnwys llyfrau stori ac eitemau personol fel blychau atgofion, breichledi, llyfrau sgrap a llyfrau cofio.

Mae’r Prosiect Uncorn wir wedi helpu plant a phobl ifanc i ddelio â’u galar a symud ymlaen o’u profedigaeth, gydag un rhiant yn dweud:

“Mae wedi bod yn gysur anhygoel i mi wybod bod gan fy merch rywun i droi ato a thrafod colli ei thad gyda hi.

Roeddwn i’n teimlo mai’r gefnogaeth orau y gallwn ei chynnig iddi oedd gofyn iddi’n syml os oedd hi’n ok ac i dawelu meddwl fy mod i yma iddi. Fodd bynnag yr hyn y mae’r Gwasanaeth Uncorn wedi gallu ei gynnig iddi yw’r cyfle i siarad yn agored â rhywun a fyddai’n gwrando ar ei phryderon a chynnig awgrymiadau i ymdopi â cholli ei thad.

Fyddwch chi byth yn gwybod yn iawn faint rydych chi wedi cyffwrdd â’n bywydau.”

Stories

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Cronfa i Gymru

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cronfeydd Sir y Fflint

Lles yn y coed

Lles yn y coed

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies