Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Sir Fynwy
Blaenau Gwent, I gyd, Sir Fynwy, a Torfaen
Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau
Mae'r gronfa hon bellach ar agor i unigolion. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ar 17 Chwefror 2025.
Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Sir Fynwy yn rhoi cymorth ariannol i unigolion o ardal Gwent (yn benodol Sir Fynwy fel yr oedd yn bodoli yn 1956) sy’n dilyn llwybr addysg uwch/bellach neu hyfforddiant.
Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer y canlynol:
- costau sy’n gysylltiedig ag ymgymryd ag addysg bellach/uwch gan gynnwys cyfarpar, deunyddiau, teithio dramor a ffioedd cwrs/arholiad
- costau sy’n gysylltiedig â’r gwaith o baratoi i ymgymryd â chrefft neu waith proffesiynol gan gynnwys cyfarpar, deunyddiau a hyfforddiant
Y grantiau sydd ar gael
- Gall ymgeiswyr wneud cais am grantiau o rhwng hyd a £500.
Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gallu dangos yn union sut y byddant yn cyflawni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi derbyn cymorth gan y Gronfa hon o’r blaen.
Pwy all wneud cais?
- Rhaid i ymgeiswyr fyw yn ardal Sir Fynwy fel yr oedd yn 1956, h.y. yr Awdurdodau Lleol a ddaeth yn ardal Gwent: Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a Sir Fynwy (y cyfan neu ran ohono)
- Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod wedi mynychu Ysgol Uwchradd yn ardal Gwent am o leiaf 2 flynedd
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn 25 oed neu’n iau
- Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol
Sut i wneud cais?
Rhaid i ymgeiswyr lenwi’r ffurflen gais ar-lein. Sicrhewch eich bod yn darllen y meini prawf yn ofalus cyn i chi wneud cais i sicrhau eich bod yn gymwys.
Ymgeisiwch nawrHeb y gefnogaeth, ni fyddwn wedi cael y run cyfleon
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: