Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Sir Fynwy

Blaenau Gwent, I gyd, Sir Fynwy, a Torfaen

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

  Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y gwybodaeth am grantiau eraill sydd ar gael i chi.

Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Sir Fynwy yn rhoi cymorth ariannol i unigolion o ardal Gwent (yn benodol Sir Fynwy fel yr oedd yn bodoli yn 1956) sy’n dilyn llwybr addysg uwch/bellach neu hyfforddiant.

Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer y canlynol:

  • costau sy’n gysylltiedig ag ymgymryd ag addysg bellach/uwch gan gynnwys cyfarpar, deunyddiau, teithio dramor a ffioedd cwrs/arholiad
  • costau sy’n gysylltiedig â’r gwaith o baratoi i ymgymryd â chrefft neu waith proffesiynol gan gynnwys cyfarpar, deunyddiau a hyfforddiant

Y grantiau sydd ar gael

  • Gall ymgeiswyr wneud cais am grantiau o rhwng hyd a £500.

Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gallu dangos yn union sut y byddant yn cyflawni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi derbyn cymorth gan y Gronfa hon o’r blaen.

 

Pwy all wneud cais?

  • Rhaid i ymgeiswyr fyw yn ardal Sir Fynwy fel yr oedd yn 1956, h.y. yr Awdurdodau Lleol a ddaeth yn ardal Gwent: Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a Sir Fynwy (y cyfan neu ran ohono)
  • Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod wedi mynychu Ysgol Uwchradd yn ardal Gwent am o leiaf 2 flynedd
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn 25 oed neu’n iau
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol

Sut i wneud cais?

Rhaid i ymgeiswyr lenwi’r ffurflen gais ar-lein. Sicrhewch eich bod yn darllen y meini prawf yn ofalus cyn i chi wneud cais i sicrhau eich bod yn gymwys.

Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Sir Fynwy

Heb y gefnogaeth, ni fyddwn wedi cael y run cyfleon

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa True Venture

Conwy, Gogledd Cymru, Gwynedd

Cronfa Effaith Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – cronfa costau byw

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg