Heb y gefnogaeth, ni fyddwn wedi cael y run cyfleon

Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Sir Fynwy

Dyfarnwyd £ 500 i fyfyriwr sy’n astudio ar gyfer BA Anrh mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Bournemoth a dyfarnwyd £500 iddo er mwyn helpu gyda chostau teithio ar gyfer gwaith gwirfoddol di-dâl, monitor cyfrifiadur newydd a’r costau sy’n gysylltiedig â bywyd myfyrwyr.

“Mae’r grant hwn wedi cael effaith enfawr ar fy natblygiad addysgol ac mae wedi fy ngalluogi i gael y gorau o’m profiad addysg uwch. Cafodd y mwyafrif o’r cyllid ei neilltuo ar gyfer y cyfleustodau. Roedd y grant wedi rhoi cymorth ariannol yr oedd ei wir angen arnaf i dalu biliau cyfleustodau. Rwy’n byw mewn tŷ myfyriwr sydd ag inswleiddio gwael, felly roedd y grant wedi fy ngalluogi i dalu biliau cyfleustodau hanfodol dros y gaeaf.

Gwnes i neilltuo £100 ychwanegol ar gyfer monitor gliniadur newydd. Roedd fy hen liniadur wedi torri ac roedd yn fy atal rhag gweithio ar fy aseiniadau yn effeithlon.

Aeth gweddill yr arian tuag at gostau teithio i Southampton, ac oddi yno, er mwyn cyflawni fy lleoliad gwirfoddol sydd wedi agor drysau i mi yn y farchnad wleidyddol. Ers cyflawni fy lleoliad gwirfoddol, rwyf wedi ehangu fy rhwydwaith ac wedi cael amrywiaeth o gysylltiadau a fydd yn fy helpu i ddatblygu fy ngyrfa.

Heb yr arian hwn, ni faswn wedi gallu cyflawni’r lleoliad.”

Stories

Meithrin Cysylltiadau a Chefnogi Teuluoedd

Meithrin Cysylltiadau a Chefnogi Teuluoedd

Cronfa i Gymru

Trawsnewid bywydau ifanc

Trawsnewid bywydau ifanc

Gronfa i Gymru

Ffermio ar gyfer iechyd meddwl a lles

Ffermio ar gyfer iechyd meddwl a lles

Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality