Cronfeydd Wrecsam
I gyd, a Wrecsam
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Mae Ardal Wrecsam yn dod o dan ddwy Gronfa, Cronfa Gwaddol Cymunedol Wrecsam a Chronfa Deddf Eglwys Gymreig Wrecsam.
Mae Cronfa Waddol Cymuned Wrecsam yn ymbarél o gyllid a rhoddion sydd â’r nod penodol o wella addysg ac atgyfnerthu cymunedau yn Wrecsam.
Mae gan Gronfa Waddol Cymuned Wrecsam ddau brif amcan:
- Amcan Cronfa 1 – annog, cefnogi a hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol anstatudol a dysgu gydol oes, gan gynnwys y blynyddoedd cynnar. Dylai ceisiadau fodloni o leiaf un o’r blaenoriaethau canlynol:
- Prosiectau sy’n cefnogi datblygiad addysgol plant a phobl ifanc oed ysgol
- Prosiectau sy’n cefnogi datblygiad addysgol plant yn y blynyddoedd cynnar
- Prosiectau mewn ysgolion sy’n cefnogi materion iechyd a byw’n iach
- Prosiectau cyrhaeddiad addysgol gan gynnwys dysgu gydol oes
- Prosiectau cynhwysiant addysg gyda chefnogaeth i fyfyrwyr unigol talentog ar ffurf ysgoloriaethau, gwobrau am gyrhaeddiad a deunyddiau addysgol neu adnoddau eraill
- Amcan 2 y Gronfa – annog, cefnogi a hyrwyddo lles ysbrydol a gwella bywydau pobl ag adnoddau cyfyngedig. Dylai ceisiadau fodloni o leiaf un o’r blaenoriaethau canlynol:
- Prosiectau sy’n hyrwyddo cymunedau mwy diogel a chynhwysol
- Amgylchedd a chymdogaethau cynaliadwy
- Cefnogi pobl hŷn
- Gweithio gyda phlant a phobl ifanc
- Prosiectau i annog gwell iechyd a lles
- Diwylliant, treftadaeth a chwaraeon
Cronfa Ymddiriedolaeth Elusennol sy’n cael ei gweinyddu gan Sefydliad Cymunedol Cymru yw Cronfa Deddf Eglwys Gymraeg Wrecsam. Mae Cronfa yr Ymddiriedolaeth yn cael ei llywodraethu gan Ddeddf yr Eglwys Gymraeg 1914. Mae’r gronfa yn cefnogi:
- Prosiectau sy’n cyfrannu at adnewyddu a chynnal eglwysi, capeli a neuaddau cymunedol/pentref yn y sir.
- Prosiectau sy’n gweithio i fynd i’r afael ag anfantais er budd trigolion Wrecsam.
- Prosiectau sy’n darparu gweithgareddau cymdeithasol a hamdden i drigolion Wrecsam
Yn 2020 cyhoeddodd Sefydliad Cymunedol Cymru ganfyddiadau ymchwil a wnaed gyda mwy na 100 ogrwpiau cymunedol ar draws Cymru. Amlygodd ein hadroddiad Yn Uchel ac yn Groch fod elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru eisiau i arianwyr roi blaenoriaeth i arian craidd ac i bartneriaethau tymor hirach. Rydym wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn yr adroddiad hwn i’n helpu i ffurfio ein Cronfeydd Wrecsam a dangos i grwpiau ein bod yn credu yn eu dibenion craidd a’n bod ni eisiau eu cefnogi i weithio’n fwy effeithiol yn eu cymunedau yn y tymor hirach.
Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw bod grwpiau’n allu cynllunio ar gyfer y dyfodol a bod cael sicrwydd fod arian ar gael yn gallu rhoi’r hyder a sicrwydd i chi i ddatblygu’ch prosiect dros y tymor hir. Mae Cronfeydd Wrecsam yn cynnig cyfle i grwpiau ymgeisio am arian am sawl blwyddyn, hyd at dair blynedd, ond bydd hefyd yn dal ati i gynnig arian ar gyfer prosiectau un flwyddyn neu eitemau cyfalaf bychain.
Rydym yn gobeithio gallu dyrannu o leiaf un grant tair blynedd y flwyddyn. I gael eich ystyried ar gyfer grant tair blynedd, dylech gwblhau’r adran ychwanegol ar y ffurflen gais i ddangos sut rydych yn bwriadu datblygu’ch prosiect dros y cyfnod ariannu yr ymgeisir amdano. D.S. Bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried ar gyfer cyllid un flwyddyn os nad ydych yn llwyddiannus am grant tair blynedd.
Rydym hefyd yn cydnabod ei bod yn anodd cael arian craidd, yn enwedig yn y tymor hirach. Erbyn hyn, mae grwpiau cymunedol yn gallu ymgeisio am arian tuag at gostau craidd am hyd at dair blynedd, cyn belled bod y grŵp yn gallu cyflwyno cyfrifon ar gyfer o leiaf y 12 mis diwethaf a bod y swm yr ymgeisir amdano’n llai na 50% o’r trosiant blynyddol. Er enghraifft, i ymgeisio am grant o £1,000 y flwyddyn, dylai’ch incwm blynyddol fod yn £2,000 o leiaf.
Y grantiau sydd ar gael
- Gall unigolion wneud cais am grantiau o hyd at £500. Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol
Gall sefydliadau wneud cais am grantiau o hyd at £1,000
Pwy all wneud cais?
- Gall myfyrwyr unigol sy’n byw’n llawn amser ar hyn o bryd yn ardal Awdurdod Lleol Wrecsam, cyn belled nad yw’r mentrau yn dod o dan ddarpariaeth statudol, ymgeisio o dan Amcan 1 yn unig.
- Mae croeso i grwpiau a sefydliadau yn ardal Awdurdod Lleol Wrecsam sy’n rhedeg prosiectau cymunedol llawr gwlad ymgeisio o dan Amcan 1 neu Amcan 2. Er enghraifft, grwpiau cymunedol ac elusennau lleol, sgowtiaid / geidiaid a brigâd y bechgyn / merched, prosiectau’n cael eu trefnu gan eglwysi a / neu’n defnyddio adnoddau sefydliadau ffydd a phrosiectau cymunedol e.e. clybiau cinio pobl hŷn, clybiau ieuenctid, grwpiau mamau a’u plant bach
- Mae eglwysi a sefydliadau’n gweithio gyda thrigolion ardal yr Awdurdod Lleol Wrecsam yn gallu ymgeisio am grantiau hyd at £1,000. Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gallu dangos yn union sut y byddant yn cyfarfod ag amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa ac nad ydynt wedi derbyn cefnogaeth oddi wrth y Gronfa hon o’r blaen.
Sut i wneud cais?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: