Sefydliad Addysgol John Vaughan

I gyd, a Sir Gar

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Mae'r gronfa hon ar gau i geisiadau ar hyn o bryd. Mi fydd yn ail agor ar 2 Ebrill. Byddwn hefyd yn argymell eich bod yn cofrestru i'n Cylchlythyr Grantiau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau.

Cafodd Sefydliad Addysgol John Vaughan ei sefydlu ar gyfer trigolion plwyf Llangynog, Sir Gaerfyrddin er mwyn gwneud y canlynol:

  • annog, cefnogi a hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol anstatudol a dysgu gydol oes, gan gynnwys y blynyddoedd cynnar
  • annog, cefnogi a hyrwyddo llesiant ysbrydol a gwella bywydau pobl nad oes ganddynt lawer o adnoddau

Y grantiau sydd ar gael

  • Grantiau o hyd at £500 ar gyfer unigolion
  • Gall elusennau, grwpiau a sefydliadau nid er elw wneud cais am grantiau o hyd at £1,000

Pwy all wneud cais?

  • Rhieni a/neu ofalwyr plant a phobl ifanc hyd at a chan gynnwys 18 oed neu unigolion hŷn sy’n un o drigolion llawn amser plwyf Llangynog yn Sir Gaerfyrddin, i’w galluogi i ddatblygu eu haddysg a’u dysgu, ar yr amod nad yw’r fenter yn dod o dan ddarpariaeth statudol.
  • Elusennau, grwpiau a sefydliadau nid er elw yn y plwyf, er enghraifft: grwpiau mewn lifrai, prosiectau sydd wedi’u trefnu gan eglwysi a/neu sy’n defnyddio cyfleusterau sefydliadau sy’n gysylltiedig â ffydd a phrosiectau cymunedol e.e. clybiau cinio i bobl hŷn, clybiau ieuenctid a grwpiau mamau a babanod ac ati.

Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n dangos sut y byddant yn bodloni amcanion y Gronfa yn y ffordd orau, a phwy sy’n dangos yr angen ariannol a chymdeithasol y bydd y grant yn mynd i’r afael ag ef yn y ffordd orau.

Sut i wneud cais?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.

 

Sefydliad Addysgol John Vaughan

Cefnogi gwaith caled seren polo dŵr

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Effaith Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – cronfa costau byw

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Croeso Cenedl Noddfa

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg