Sefydliad Teulu Ashley

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn

Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau

Ewch i wefan Sefydliad Teulu Ashley i gael manylion dyddiadau cau.

 

 

Mae Sefydliad Teulu Ashley (Sefydliad Laura Ashley gynt) yn elusen gofrestredig yn y DU a sefydlwyd gan Syr Bernad Ashley a’i wraig Laura Ashley yn dilyn llwyddiant brand Laura Ashley. Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn falch o weithio gyda Sefydliad Teulu Ashley i ddyrannu ei gyllid yng Nghymru.

Ethos Sefydliad Teulu Ashley yw atgyfnerthu cymunedau gwledig yn bennaf, o ran yr agweddau cymdeithas ac amgylcheddol yn ogystal â rhoi yn ôl i’r cymunedau a oedd wedi helpu’r teulu i ddatblygu’r cwmni yn llwyddiant rhyngwladol.

Mae Sefydliad Teulu Ashley yn arbennig o awyddus i ariannu gwaith yn ardaloedd gwledig Canolbarth Cymru, sef ble y cafodd cwmni ‘Laura Ashley’ effaith sylweddol ar yr economi leol a llesiant cymdeithasol ei phobl, gyda mwy o gyfleoedd cyflogaeth ac ysbryd tîm gwerthfawr y gweithlu.

Yn ogystal â hyn, mae Sefydliad Teulu Ashley yn awyddus i gael ceisiadau gan brosiectau celfyddydau a chymunedol bach yng Nghymru ac yn croesawu cynigion gan amgueddfeydd/sefydliadau cymunedol ac ysgolion uwchradd i gael cyllid am bynciau sy’n ymwneud â’r celfyddydau.

Y grantiau sydd ar gael

Gall sefydliadau wneud cais am grantiau rhwng £500 a £10,000

Pwy all wneud cais?

Elusennau, sefydliadau a grwpiau cymunedol anghorfforedig sydd â chyfansoddiad neu gylch gorchwyl a diben elusennol.
Dyrennir cyllid i brosiectau ar sail budd a gwerth a chaiff pob prosiect ei ystyried yn unigol.

Sut i wneud cais?

Dylid gwneud ceisiadau yn uniongyrchol drwy wefan Sefydliad Teulu Ashley.

Noder nad yw Sefydliad Teulu Ashley yn ariannu’r canlynol:

  • Unigolion
  • Mentrau busnes
  • Prosiectau tramor
  • Prosiectau ym maes crefydd
  • Prosiectau sy’n gysylltiedig â dawns
  • Ariannu ysgolion yn uniongyrchol
  • Dyfarnu cyllid ar gyfer gweithgareddau a gynhaliwyd eisoes
Sefydliad Teulu Ashley

Diogelu ein hanes lleol

Darllen mwy

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa True Venture

Conwy, Gogledd Cymru, Gwynedd

Cronfa Effaith Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – cronfa costau byw

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg