Diogelu ein hanes lleol

Ashley Family Foundation

Diogelu ein hanes lleol

“Mae’n ddiddorol iawn ac mor braf gwybod bod yr amgueddfa wedi cael ei hadfer, ac yn parhau i gael ei hadfer, mewn ffordd mor dda a gofalgar.”

Mae’r Amgueddfa Tecstilau yn y Drenewydd yn dangos i ymwelwyr sut roedd gwehyddion gwŷdd llaw ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn byw ac yn gweithio. Dyfarnodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru grant o £8,950 i’r Amgueddfa i foderneiddio ac adnewyddu eu harddangosiadau er mwyn helpu i wella profiad yr ymwelwyr.

Gyda’n cyllid, mae’r Amgueddfa wedi llwyddo i arddangos ac aildrefnu eu harddangosiadau mewn ffordd fwy effeithiol a diddorol. Mae wedi adfywio diddordeb yn yr Amgueddfa, ac mae pobl leol ac ymwelwyr yn falch iawn o weld buddsoddiad yn y gwaith o ddiogelu hanes y Drenewydd.

Defnyddiwyd rhywfaint o’r cyllid i adeiladu nodweddion newydd megis dwy siop a ddefnyddiodd ffenestri a drysau a gafodd eu rhoi i’r Amgueddfa gan siopau yn y Drenewydd a gafodd eu dymchwel yn y 1960au a’r 70au.

Prynwyd cesys ail-law hefyd ar gyfer y siopau ac mae cesys annibynnol newydd bellach yn arddangos manion gwnïo ac arteffactau o gasgliad yr Amgueddfa.

Mae’r hwb yn y cyllid hefyd wedi helpu’r Amgueddfa i wneud gwelliannau cyffredinol i’r adeilad, gan ei gwneud yn fwy diogel a phleserus i ymwelwyr a gwirfoddolwyr. Maent hefyd wedi cael grant i gyllido gwelliannau digidol, megis arddangosiadau sgrin gyffwrdd a sgriniau deallus, er mwyn denu cynulleidfaoedd iau a gwneud yr Amgueddfa yn fwy hygyrch i bawb.

Mae’r newidiadau i’r cesys arddangos ac adeiladu’r siopau wedi creu mwy o le ar y llawr uchaf a gellir ei ddefnyddio ar gyfer arddangosiadau dros dro.

Mae’n amlwg bod y cyfuniad llwyddiannus o wirfoddolwyr brwdfrydig a chyllid yr oedd ei angen yn ddirfawr, yn hollbwysig i gadw drysau’r amgueddfa ar agor, gan alluogi cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth i ddysgu am hanes cyfoethog y Drenewydd yn y diwydiant tecstilau.

Stories

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Cronfa i Gymru

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cronfeydd Sir y Fflint

Lles yn y coed

Lles yn y coed

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies