Grwpiau cymunedol ar hyd Gwent yn dod at ei gilydd ar gyfer digwyddiad ‘Eich Lais, Eich Dewis’

Ymunodd grwpiau cymunedol gyda’i gilydd i wneud cais am gyfran o bot grantiau gwerth tua £60,000 o Gronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent.

Cynhaliwyd digwyddiad 2023 ‘Eich Lais, Eich Dewis’ yng Ngholeg Gwent yng Nghasnewydd gyda 13 grŵp yn cynnig am grant i gefnogi eu prosiect.

Mae ‘Eich Llais, Eich Ddewis’ yn bartneriaeth rhwng Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Chymuned Gwent a Sefydliad Cymunedol Cymru i roi grantiau o hyd at £5,000 i grwpiau cymunedol ledled Gwent.

Mae’r digwyddiad hwn yn cynnwys fformat arloesol o roi grant sy’n galluogi pobl leol i flaenoriaethu atebion i faterion lleol a chefnogi prosiectau ar lawr gwlad.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i arddangos 13 grŵp oedd bob un efo pedwar munud i gyflwyno eu prosiect, gyda phob cyflwyniad yn cael ei sgorio gan y grwpiau eraill. Rhoddwyd cyfran o bot grantiau i’r prosiectau y credir eu bod yn mynd i’r afael â’r materion pwysicaf. Roedd fformat y digwyddiad yn caniatáu i grwpiau gyfathrebu eu straeon yn eu ffordd eu hunain a rhannu eu hymgyrch a’u hymrwymiad i wella bywydau yng Ngwent.

Eleni, dyfarnwyd grant aml-flwyddyn i Parish Trust, gyda’r nod o gefnogi cynaliadwyedd a gwydnwch.

Y dathliad hwn, sy’n creu grantiau, yw uchafbwynt calendr Cronfa Gymunedol Uchel Siryfion Gwent a phenllanw blwyddyn o godi arian gan Uchel Siryf presennol Gwent, Malgwyn Davies MBE. Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent yn cyfrannu £65,000 i’r cynllun.

Mae Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent yn gweithio’n galed i adeiladu cymunedau mwy diogel yng Ngwent trwy gefnogi prosiectau sy’n mentora ac ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni eu potensial. Mae’r digwyddiad yma’n gyfle i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol sy’n gwneud cymaint i wella bywydau pobl yng Ngwent.

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Roedd yn wych gweld y mudiadau cymunedol yng Ngwent yn arddangos eu prosiectau gwych sy’n helpu i wella bywydau pobl yn eu cymuned leol.

Mae Eich Llais, Eich Dewis yn rhoi llwyfan i grwpiau cymunedol rannu eu straeon, yn aml trwy eiriau’r bobl maen nhw’n eu helpu. Mae’n rhoi’r grym yn nwylo pobl leol i flaenoriaethu atebion i faterion lleol.

Llongyfarchiadau a diolch i bawb wnaeth gymryd rhan yn Eich Llais, Eich Dewis eleni.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae grwpiau cymunedol llawr gwlad sy’n cynnig cefnogaeth leol i blant a phobl ifanc yn hanfodol i greu cyfleoedd sy’n llywio pobl ifanc rhag trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae hyn yn rhywbeth rwy’n ei gymryd o ddifrif ac mae’n ymrwymiad allweddol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd, a dyna pam, eleni, rwyf wedi cyfrannu £65,000 i gronfa’r Uchel Siryf.

Rwy’n falch y bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi cymaint o grwpiau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant a phobl ifanc yn eu cymunedau.”

Dywedodd Malgwyn Davies MBE, Uchel Siryf Gwent 2022-23:

“Roedd hi’n achlysur pan oedd pobl ifanc Gwent yn ennyn brwdfrydedd am y gwasanaethau y gallen nhw eu darparu pe bai cyllid ychwanegol ar gael. Roedd eu hafiaith yn heintus ac yn creu awyrgylch bleserus drwy gydol y digwyddiad.

Gwnaed gwobrau a fydd yn galluogi gwireddu uchelgais y sefydliadau llwyddiannus, gan fod o fudd i fywydau llawer o’n pobl ifanc.”

Dyma’r sefydliadau a ddyfarnwyd grantiau yn nigwyddiad 2023:

  • Made in Tredegar
  • The Outdoor Partnership
  • Llamau
  • The Parish Trust
  • Operasonic Cyf
  • NYAS
  • Cymru Creations
  • Rewild Play
  • Duffryn Community Link
  • TOGs Centre
  • The Bridge to Cross CT
  • Crimestoppers Trust

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…