Helpu cymunedau BAME i adfer o gyfnod y pandemig

Mae sefydliadau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod cymorth brys hanfodol yn cyrraedd cymunedau sy’n cael eu taro’n galed.

Mae ymchwil cynyddol, gan gynnwys data gan ONS, yn dangos bod y pandemig wedi taro rhai cymunedau’n galetach nag eraill, yn arbennig felly grwpiau BAME. Yn aml mae’r grwpiau hyn yn wynebu heriau ychwanegol, fel rhwystrau iaith, gwahaniaethau diwylliannol, a diffyg mynediad at adnoddau, gan ei gwneud hi’n anoddach fyth adfer o’r pandemig.

Yn dilyn ymchwil ac ymgynghori â thrydydd sector Cymru, lansiodd Sefydliad Cymunedol Cymru y Gronfa Cymorth Adfer Covid-19 i grwpiau cymunedol BAME yng Nghymru er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r anhegwch hwn.

Llunio’r meini prawf

O siarad â chymunedau BAME, a sefydliadau eraill sy’n gweithio o fewn y sector, dysgom fod grwpiau’n cael trafferth denu cyllid. Roedd hyn am amryw o resymau cymhleth, ond yn rhannol oherwydd y rhwystrau ychwanegol y maent yn eu profi, megis iaith a diffyg hyder wrth ddeall gofynion cyllidwyr.
Gyda hyn mewn golwg, ac ar ôl gweithio gyda BAWSO, Cyngor Hil Cymru a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, gwnaethom lunio meini prawf y gronfa i ddenu ceisiadau gan grwpiau cymunedol sydd nid yn unig yn cefnogi cymunedau lleol BAME ond sydd hefyd wedi’u harwain gan bobl o gymuned BAME.

Diffiniwyd ‘dan arweiniad BAME’ yn y lle cyntaf gan dermau a gyhoeddwyd gan y Race Equality Funders Alliance, gan mai cenhadaeth a phwrpas y sefydliad yw bod o fudd i gymunedau BAME, a fod y mwyafrif o’r arweinyddiaeth (h.y. o leiaf hanner yr uwch dîm a’r bwrdd Ymddiriedolwyr) yn dod o’r cymunedau BAME y maent eu gwasanaethu.

Fe wnaethom hefyd symleiddio ein ffurflen gais er mwyn gwneud yn haws i grwpiau eu cwblhau a chynnig ein cefnogaeth arferol i ymgeiswyr ar ffurf galwad ffôn i siarad drwy’r cais cyn neu yn ystod y broses.

Dyfarnu grantiau i grwpiau BAME

Mae nifer o grantiau eisoes wedi’u dyfarnu’n llwyddiannus, gyda chyllid yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau o gostau craidd sefydliadol, i ddarparu hyfforddiant, cynnal gweithgareddau i deuluoedd i leddfu arwahanrwydd, recriwtio gwirfoddolwyr, digwyddiadau diwylliannol a mwy.

Dyfarnwyd grant i’r Prosiect Partner Geni, sefydliad sy’n cefnogi beichiogrwydd a mamau newydd o gefndiroedd BAME, i’w helpu i recriwtio a hyfforddi mwy o bartneriaid geni gwirfoddol, fel y gallant gyrraedd mwy o famau sy’n chwilio am noddfa a lleihau unigrwydd drwy sicrhau eu bod yn derbyn cymheiriaid i gefnogaeth gan gyfoedion.

Cafodd KIRAN Cymru grant hefyd ar gyfer prosiect sy’n cefnogi pobl hŷn yn y gymuned BAME leol. Eu cenhadaeth sefydliadol yw hyrwyddo cynhwysiant a gwella gwytnwch mewn cymunedau BAME, ac mae’r prosiect hwn yn cynnwys gweithdai rhedeg, sesiynau meddwl iach a gweithgareddau eraill sy’n hyrwyddo cynhwysiant a lles.

Ar ol 6 mis o’r prosicect, dywedodd Swyddog Prosiect KIRAN, Anirban Mukhopadhyay:

“Mae’r grant hwn yn ein helpu i ymgysylltu â phobl leol yn rheolaidd a mynd ati trwy wahanol weithgareddau i frwydro yn erbyn effeithiau Covid-19. Mae’n ein helpu i wneud pobl yn fwy gwydn ac yn gryfach o’r tu mewn. Mae’n grymuso pobl BAME lleol.”

Cyllid ar draws Cymru

Mae pob un o’r grantiau a ddyfarnwyd o’r gronfa hyd yma wedi’u lleoli yn Ne Cymru. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi digwydd yn organig, oherwydd nifer y cymunedau BAME sefydlog mewn trefi a dinasoedd ledled y De.

Rydym am sicrhau bod cefnogaeth y gronfa hon yn cyrraedd cymunedau BAME ledled Cymru a felly wedi ymgynghori unwaith eto ag arbenigwyr yn y sector, yn cynnwys aelodau’r panel a rhai sydd â phrofiad byw, i ofyn am adborth ar sut i wneud y gronfa’n fwy hygyrch i ardaloedd eraill yng Nghymru.
Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, mae’r gronfa bellach ar agor yn unig i grwpiau sydd wedi’u lleoli y tu allan i Dde Cymru, a’u ffocws yw cefnogi pobl BAME.

Rydym yn deall bod cymunedau gwasgaredig yn y trefi a’r pentrefi llai poblog yn yr ardaloedd hyn yn llai tebygol o fod wedi eu harwain gan BAME yn llawn, yn enwedig o ran cael 50% o’r tîm arwain, (staff ac ymddiriedolwyr) yn dod o gymunedau BAME.

Felly, rydym nawr yn ystyried ceisiadau gan grwpiau nad ydynt yn cwrdd â’r elfen hon o’r meini prawf, ar yr amod bod y sefydliad yn cael ei llywio gan gymunedau BAME.

Rydym yn annog unrhyw grŵpiau sy’n credu y gallant gyd-fynd â’r meini prawf i ystyried gwneud cais, gan nad ydym hyd yn hyn wedi gweld lot o ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen gan rai tu allan i ardal De Cymru.

Os ydych yn ansicr am unrhyw agwedd o’r meini prawf, neu eisiau darganfod mwy, ewch i dudalen y gronfa yma. Gallwch hefyd archebu galwad gyda Swyddog Grantiau ar y dudalen hon hefyd.

Helpwch i ledaenu’r gair am y cyfle gwych hwn i grwpiau cymunedol sy’n cefnogi cymunedau BAME y tu allan i Dde Cymru i gael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i adfer o’r pandemig ac adeiladu cymydau cryfach, mwy gwydn ar gyfer y dyfodol.

Bydd y gronfa yn cau at geisiadau am hanner dydd ddydd Mercher, Mai 31.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…