Olynu Cadeirydd y Sefydliad

Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn penodi Cadeirydd newydd

Mae’r Sefydliad wrth ei fodd o gyhoeddi penodiad Alun Evans fel ein Cadeirydd newydd. Mae Alun wedi bod yn Ymddiriedolwr gyda’r Sefydliad er mis Ionawr, 2013 a gweithiodd ochr yn ochr â’r Cadeirydd sy’n ymadael, Janet Lewis-Jones, a ymddeolodd ym mis Gorffennaf, 2016.

Rydym yn hynod ddiolchgar am arweinyddiaeth Janet dros y chwe blynedd diwethaf. Drwy gydol ei chyfnod yn y swydd, mae’r Sefydliad wedi tyfu ac aeddfedu, gan gynyddu’n gallu blynyddol i roi grantiau i’r swm uchaf erioed o £2.9 miliwn ar gyfer y flwyddyn a orffennodd ym mis Mawrth, 2016, a datblygu cymuned o roddwyr sy’n rhoi i elusennau a phrosiectau cymunedol Cymreig.

Er ein bod wedi’n tristáu gan ymadawiad Janet, rydym yn falch iawn o groesawu Alun Evans i’w rôl newydd. Mewn cyfarfod o’r bwrdd i ffarwelio, cydnabu Alun yr effaith a gafodd Janet ar lwyddiant y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, a dymunodd ychwanegu’i ddiolchiadau’i hun:

“Ar ran yr ymddiriedolwyr a’r holl staff, fe hoffwn ddiolch i Janet am ei holl waith caled, ei diplomyddiaeth a hefyd ond am fod yn Gadeirydd da iawn dros y pedair blynedd diwethaf. Fe fydd yna golled enfawr ar ei hôl. O’m safbwynt i, hoffwn ddiolch iddi am drosglwyddo inni fenter mor llwyddiannus a sefydlog, a chanddi drefn lywodraethu a phrotocolau cryfion. Mewn cyferbyniad â hynny, mae gennyf innau o’r herwydd waith caled iawn i’w hefelychu.

“Rydym i gyd wedi dysgu cymaint o weithio ochr yn ochr â Janet ac yn neilltuol am briodoleddau bod yn gadeirydd, a helpodd y sefydliad i ffynnu. Mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth, boed drwy gasglu a pharchu mewnbwn ac adborth; rheoli cyfarfodydd ag eglurder, haelioni ysbryd a phrydlondeb; a gwerthfawrogi a chydnabod gwaith y cyfan ohonom mewn dull tawel a hynod effeithiol o arwain. Diolch.”

Mae Alun eisoes wedi cyfrannu’n enfawr at y Sefydliad yn ei rôl fel Ymddiriedolwr, a bydd yn parhau i’n tywys ag arweinyddiaeth fedrus a gwybodaeth arbenigol y mae wedi’u hennill drwy flynyddoedd o brofiad yn y sector busnes. Ar ôl iddo raddio yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, dechreuodd Alun ar fywyd yn y ddinas gan weithio i Capel-Cure Myers, Carr Sheppards Crosthwaite, ac ar hyn o bryd, Quilter Cheviot Investment Management, lle mae’n Gyfarwyddwr Datblygu Busnes. Mae Alun hefyd yn gymrawd y Sefydliad Siartredig ar gyfer Gwarannau a Buddsoddi. Mae cartref teuluol Alun yn Aberaeron ac fe ddywed ei fod yn teimlo’n fwyaf cartrefol pan fydd yng Nghymru. Daeth yn ymddiriedolwr gyntaf gyda’r Sefydliad ym mis Ionawr 2013, ac mae hefyd yn ymddiriedolwr Sefydliadau Cymunedol y Deyrnas Unedig, Walthamstow Hall School ac Academi Dewi Sant.

Ychwanegodd Prif Weithredwr y Sefydliad, Liza Kellett, hefyd ei diolchiadau, gan ddweud:

‘Mae wedi bod yn fraint aruthrol gweithio â Janet, y mae’i harweinyddiaeth dawedog ac uchelgeisiol wedi’n llywio drwy gyfnod sylweddol o dwf. Mae hi wedi ennyn y gorau ohonom i gyd, a’r gorau o’n helusennau, ac mae’i dull cynnes, cydweithredol wedi arwain diwylliant o fyfyrio, o ddidwylledd ac o ymdrechu’n daer i wneud mwy dros ein cymunedau a’n rhoddwyr. Rydym i gyd yn llawn cyffro bod Alun Evans wedi’i ethol i ymgymryd â rôl Cadeirydd, yn enwedig o gofio’i fod wedi bod yn wirfoddolwr, yn Ymddiriedolwr ac yn eiriolwr mor weithgar dros Ddyngarwch, a thros waith y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Wrth inni ddechrau wynebu ar ein cynllun strategol tair blynedd nesaf, bydd arweinyddiaeth a stiwardiaeth Alun yn allweddol i’n helpu i gyflawni’n huchelgais i fod y lle ar gyfer dyngarwch yng Nghymru.’

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu