Pam fod llywodraethiant da mor bwysig

Pam fod llywodraethiant da mor bwysig

Rhan o broses pob codwr arian wrth asesu ceisiadau am grant yw cynnal cyfres o wiriadau ‘dyletswydd dyladwy’. Y gwiriadau hynny sy’n dangos iechyd, nerth a chymhwysedd sefydliadau ac sydd hefyd yn dangos tystiolaeth o’u gallu i ddefnyddio’r arian yr ymgeisir amdano mewn modd diogel, effeithiol ac effeithlon.

Yn ystod y pandemig COVID, roedden ni, a chodwyr arian eraill hefyd, wedi llacio’r rheolau ynghylch gwiriadau dyletswydd dyladwy er mwyn gallu cael arian allan i gymunedau lleol mor gyflym â phosibl ac er mwyn i grwpiau allu ymateb i’r angen oedd o’u cwmpas. Erbyn hyn, mae’n amser tynhau unwaith eto ac rydym eisiau bod yn fwy agored a thryloyw ynghylch y broses.

Rydym ni eisiau i’r grwpiau a fydd yn cyflwyno ceisiadau i ni yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod i ddeall y gwiriadau y byddwn yn eu gwneud, yn enwedig ar adeg ymgeisio, fel eu bod yn gallu gwneud yn siŵr eu bod yn cyfarfod â’n gofynion. Mae hynny’n arbennig o berthnasol o ran gwiriadau llywodraethiant gan mai hynny yw cychwyn eich taith ariannu gyda ni.

Rydym ni’n cydnabod y gallen ni fod yn cynnig rhagor o gefnogaeth i’r grwpiau rydyn yn gweithio gyda nhw, yn enwedig ynghylch ein prosesau a’n disgwyliadau. Yn gynharach eleni, fe gynhalion ni arolwg yn gofyn i grwpiau, wrth gyflwyno ceisiadau am grantiau, nodi’r meysydd y mae angen y gefnogaeth fwyaf. Cyngor ar fonitro a gwerthuso a ddaeth ar y brig, yn cael ei ddilyn yn agos gan lywodraethiant ac yna ysgrifennu a chynllunio cais da.

Er mwyn cynnwys y pynciau hyn a rhagor, rydym wedi creu Pecyn Gwaith Grantiau i helpu grwpiau a byddwn yn datblygu’r pecyn gwaith hwn, gyda’ch mewnbwn chi, dros amser.

Mae adran Llywodraethiant y pecyn gwaith hwn yn cynnig cyngor ac arweiniad ac yn cynnwys ein dogfen Isafswm Safonau a Ddisgwylir.

Isafswm Safonau a Ddisgwylir yw ein canllaw ar gyfer cynnal gwiriadau dyletswydd dyladwy ar y dogfennau cefnogi rydym ni’n gofyn amdanyn nhw gyda cheisiadau. Seilir y canllawiau ar ofynion cyfreithiol, yn enwedig ar gyfer grwpiau sydd wedi’u cofrestru gyda chorff rheolaethol, ond hefyd ar ymarfer gorau.

Rydym ni wedi cyflwyno’r safonau hyn am sawl rheswm:

Rydym ni eisiau i’ch grŵp gael y cyfle gorau o lwyddo, nid yn unig gyda ni ond gydag arianwyr eraill a fydd yn cynnal gwiriadau tebyg.

Rydym wedi sylwi fod safonau wedi llithro ar ôl y pandemig sy’n ddealladwy gan mai ar ddarparu gwasanaeth yr oedd y pwyslais.

Mae cynnal dogfennaeth yn broses o ddatblygu parhaus felly mae cadw’ch dogfennau’n gyfredol ac yn unol â’r ddeddfwriaeth bresennol yn dangos i ariannwyr bod eich sefydliad yn gadarn ac yn weithgar.

Bydd arianwyr yn annhebyg o symud ymlaen at y rhan gyffrous o’ch cais – darllen am eich sefydliad, eich dyheadau a’r cyfleoedd rydych chi a’ch cymuned wedi’u nodi – os yw trefn eich llywodraethiant yn wael.

Mae cynnal gwiriadau dyletswydd dyladwy yn rhan o’r asesiad risg ar gyfer arianwyr. Rydym ni eisiau i’n cronfa allu cefnogi’ch sefydliad er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau’r rhai rydych yn gweithio gyda nhw. Os oes gan sefydliad strwythur cryf a pholisïau a gweithdrefnau effeithiol, mae’n debycach o fod yn gallu darparu gwasanaethau diogel ac ystyrlon o ansawdd da yng nghalon y gymuned.

Rydym ni’n credu y bydd adborth onest ac adeiladol yn helpu sefydliadau i lwyddo i gael grantiau i wella a chryfhau.

Nid bwriad ein Isafswm Safonau yw eich baglu na rhoi cylch arall i chi orfod neidio trwyddo. Y bwriad yw helpu grwpiau i nodi meysydd lle mae angen datblygu a chynnig arweiniad ar ble mae cefnogaeth ar gael. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i geisiadau lwyddo yn y dyfodol, nid yn unig gyda Sefydliad Cymunedol Cymru, ond hefyd gydag arianwyr ar draws y sector.

Mae’r Pecyn Gwaith Grantiau ar gael yma.

Fe fyddem ni wrth ein bod yn clywed oddi wrthych ac o dderbyn unrhyw sylwadau, positif neu negyddol, ar y ddogfen Isafswm Safonau a’n Pecyn Gwaith Grantiau yn gyffredinol.

Rydym yn croesawu’ch adborth felly rhowch wybod i ni os oes unrhyw beth nad yw wedi’i grybwyll a fyddai o gymorth arbennig i chi.

Croeso i chi gysylltu â mi trwy LinkedIn neu anfonwch e-bost at andrea@communityfoundationwales.org.uk

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu