Prosiectau sy’n helpu merched a genethod ar draws Cymru’n cael hwb ariannol mawr

Bydd 32 o grwpiau mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru sy’n gweithio i gefnogi merched a genethod yn wynebu gwahanol anawsterau yn cael hwb ariannol mewn grantiau gwerth £284,200.

Dyma ail rownd grantiau Cronfa Gymunedol Treth Tampon, sy’n cael eu rhannu gan Sefydliad Cymunedol Cymru ac sydd i helpu merched a genethod gyda phroblemau megis tlodi mislif, camdriniaeth ddomestig ac iechyd meddwl.

Bydd 32 o brosiectau ledled Cymru’n derbyn grantiau o rhwng £5,000 – £10,000 yr un.  Rhai o’r prosiectau sy’n cael eu hariannu yw:

  • Mae Aurora Trinity Collective yng Nghaerdydd wedi derbyn £7,605 i helpu menywod yn y gymuned leol, yn enwedig ffoaduriaid a cheiswyr lloches, i ddatblygu lles a hyder trwy ddysgu sgiliau newydd wrth greu gwisgoedd ac addasiadau ac atgyweiriadau i ddillad.
  • Mae Ffrindiau Teulu i Blant 5 i 11 yn Wrecsam wedi derbyn £10,000 i ddarparu hyfforddiant a chwnsela i fenywod sydd wedi dioddef neu sy’n dioddef camdriniaeth.
  • Ymddiriedolaeth y gofalwyr Crossroads Sir Gâr yn Sir Gaerfyrddin wedi derbyn £6,022 i gynnal gweithdai i fenywod sy’n ofalwyr i’w helpu gyda hyder a phroblemau iechyd meddwl

Cafodd Peak-Arts yn y Mynyddoedd Du arian gan Gronfa Gymunedol Treth Tampon y llynedd i redeg rhaglen hyfforddi yn y celfyddydau digidol yn y Fenni i ferched ifanc dan anfantais.  Eleni, bydd yn cael £9,990 i adeiladu ar lwyddiant y prosiect hwnnw a hefyd i redeg gweithdai yn y celfyddydau digidol a pherfformio i 10 o ferched ifanc bregus yn ardal Torfaen, fel rhan o raglen ehangach Hinterlands Cymru mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.

Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Mae’r arian hwn yn hwb i grwpiau sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau merched a genethod mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru. Fe wyddom ni fod yna ofyn enfawr am y gwasanaethau hyn ac rydym ni’n falch o allu helpu sefydliadau bychain sy’n gweithio yn ein gwahanol gymunedau i gael cyfran o’r cyllid cyhoeddus sydd ar gael, na fydden nhw, fel arall, yn gallu ymgeisio amdano.

Dyma’r ail dro i Sefydliadau Cymunedol y DU gael eu dewis gan y llywodraeth i ddosbarthu trwy’i rwydwaith o sefydliadau cymunedol y rhan fwyaf o’r arian a godwyd trwy’r dreth ar gynnyrch mislif. Mae cyfanswm o £6.9 miliwn wedi’i ddyfarnu’n genedlaethol i grwpiau lleol yn y ddwy rownd o ddyfarnu arian.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…